DAVIES, JOHN ('Peirianydd Gwynedd '; 1783 - 1855), peiriannydd, saer, gof, gwneuthurwr clociau, bardd a cherddor

Enw: John Davies
Ffugenw: Peirianydd Gwynedd
Dyddiad geni: 1783
Dyddiad marw: 1855
Plentyn: Robert Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd, saer, gof, gwneuthurwr clociau, bardd a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Iorwerth Cyfeiliog Peate

Ganwyd 1783 yn Hafod-y-foel, Llanbryn-mair, brawd i'r Parch. Evan Davies ' Eta Delta'). Yn 1820 ymsefydlodd yn y Ddol-goch, Talerddig, yn yr un plwyf, gan ddatblygu busnes gwneuthurwr peiriannau ffatrïoedd gwlân. Cynhyrchai beiriannau chwalu, cribo a nyddu i ffatrïoedd ym mhob sir yng Nghymru : ar un adeg sefydlasai ganghenau o'i fusnes yn Nolgellau a Chaerfyrddin. Bu ei fab, Robert, yn cyd-weithio ag ef. Erys un peiriant nyddu (tua 1820) o'i waith yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, lle y defnyddir ef yn gyson. Bu farw 20 Medi 1855.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.