Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIS (TEULU), Hirwaun , Aberdâr , a Ferndale , perchnogion glofeydd ( D.W.B. , 1117-8).

DAVIS , DAVID , hyn . ( 1797 - 1866 ) mab Wm. David Jeffrey a Margaret ( Lewis ) , g. 1797 yn Llanddeusant , sir Gaerfyrddin . Bu'n brentis i'w ewythr ar ochr ei fam, Lewis Lewis , groser a brethynnwr ym Merthyr Tudful . Yna agorodd ei siop ei hun yn Hirwaun ac yn fuan wedyn pr. Mary Lewis . Yn ôl pob tebyg yr oedd hi'n ferch i Thos. Lewis , ewythr arall iddo. Llwyddasent, a chodi adeiladau mwy: magasant 5 mab a 5 merch, ac yr oeddent yn brif gynheiliaid achos newydd y Wesleaid Cymraeg yn Hirwaun . Fel y deuai'r plant i'w hoed, gallodd David adael y siop yng ngofal ei wraig a'i blant; agorodd lefel lo fechan ar Gefn Rhigos , a daeth hyn ag incwm ychwanegol iddo. Gwerthwyd y gwaith hwn gyda'i borthfa yn Llansawel yn 1847 , ond ymhell cyn hynny cymerasai Davis les ar wythiennau glo-ager gwerthfawr ar ystad Blaen-gwawr , Aberaman , ac agorodd bwll yno yn 1843 . Er mwyn cario'r glo i Gaerdydd , defnyddiodd yn gyntaf ( 1845 ) y gamlas ac yna ( 1847 ) y Taff Vale Railway . Gadawodd y siop yn Hirwaun yng ngofal ei ail fab Lewis (isod) a rhoes ei fab hynaf, David (isod) mewn siop yn Abercynon , Aberdâr . Gan fod nifer o'i weithwyr wedi mudo o Hirwaun i weithio ym Mlaen-gwawr , parodd godi yn 1850 y capel Wesleaidd Cymraeg presennol yn Aberdâr . Hyd yn hyn trigasai yn Hirwaun , ond tua 1851 dechreuodd agor pwll newydd yn Abercwmboi , ymhellach i lawr y cwm. Yna gadawodd Hirwaun a chodi tŷ iddo ei hun ym Mlaengwawr , gan roddi'r gorau i'r siop yn Nhrecynon , a chodi tŷ, Maes-y-ffynnon , i'w fab, David . Yr oedd hwnnw erbyn hyn wedi dyfod ato i arolygu'r gweithiau glo . Yn fuan wedyn gwerthwyd y siop yn Hirwaun , a rhoddwyd Lewis Davis yng Nghaerdydd i ofalu am werthu'r glo . Troes David Davis , hyn. , ei sylw at y Rhondda Fach , lle nad oedd prin lwybr na neb wedi gweithio ar ei hadnoddau. Ar ôl ymdrechion costus ond di-fudd, trawodd o'r diwedd ar wythïen dda yn y fan a elwir yn awr Ferndale . Bu raid cyrchu'r offer angenrheidiol ar gefn ceffylau o Aberdâr yr ochr draw i'r mynydd. Yn 1865 agorodd Davis a pherchnogion eraill ddoc newydd ym Mhenarth , fel protest yn erbyn y costau trymion a godid yn nociau Bute yng Nghaerdydd . Ar ddechrau 1866 daeth â'i feibion, David , Lewis , Frederick a William , i'r bartneriaeth ‘ Davis & Sons ’. Bu f. 19 Mai, 1866 , yn 69 oed, a'i gladdu ym mynwent S. Ioan , Aberdâr ; bu f. ei weddw 11 Medi 1877 .

Ar ôl ei f. agorodd y ffyrm byllau eraill yn Ferndale . Ymddeolodd William Davis yn 1867 a bu f. Frederick Davis yn 1876 . Parhawyd y gwaith gan y ddau frawd arall.



Yr oedd David Davis , ieu. ( 1821 - 1884 ) yn fwy o ddyn cyhoeddus na'i dad. Bu iddo ran amlwg ym mherswadio Henry Richard ( Bywg. , 798) i sefyll etholiad seneddol ym Merthyr Tudful ac Aberdâr ( 1868 ) ac fel Lewis ei frawd cafodd wahoddiad i ddyfod yn ymgeisydd seneddol yno pan ymddeolodd Richard Fothergill ( III . Bywg. , 250a) yn 1880 . Yr oedd yn feistr da, cadwodd weithiau glo Davis yn agored trwy gydol y ‘ cloi allan ’ yn 1875 , ac yn ddiweddarach daeth yn is-gadeirydd y Bwrdd Cymodi dan H. H. Vivian ( Bywg. , 947-8) . Rhoes gynnig ar ddatblygu chwareli ym Meirionnydd , a bu'n uchel siryf y sir honno. Yr oedd ganddo dŷ yn Arthog , ac yno y bu f. ei wraig yn 1880 . Yn Aberdâr chwaraeodd ran flaenllaw yn y bywyd cyhoeddus, yn enwedig ynglŷn âg addysg. Cyfrannodd yn hael at y colegau prifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd . Yr oedd ei dad wedi glynu'n glos trwy ei oes wrth y prif gyfundeb Wesleaidd , ond tynnwyd David Davis ( ieu. ) i mewn i'r ymrafael a arweiniodd, yn ardal Aberdâr , i ymddangosiad byr-hoedlog y cyfundeb Wesleaidd diwygiedig (gw. dan Jones , William ( Bywg. , 494a) . Cododd gapel i'r rhain yn Aberdâr , a ddaeth yn ddiweddarach yn achos Annibynnol . O'i ferched pr. Mary yr hynaf, ag H. T. Edwards ( Bywg. , 174) , ficer Aberdâr , deon Bangor wedi hynny; pr. yr ail, Katherine , a Syr Francis Edwards ( Bywg. , 173b) .


Bwriadwyd Lewis Davis ( 1829 - 1888 ) ar gyfer y gyfraith, ond, fel y dywedwyd eisoes, fe'i tynnwyd i mewn i bethau ei dad. Yn 1867 ymgartrefodd yn Ferndale . Yr oedd yn ŵr tra chrefyddol, ac yn gefn mawr i Wesleaeth yn Ferndale a Chaerdydd — gw. ei gofiant, A Noble Life , gan David Young ( Bywg. , 1043) . Gyda'i frawd, a hefyd David Davies ( Bywg. , 105-6) , Llandinam , hyrwyddodd wneuthur y Barry Dock and Railway (pasiwyd y Mesur 1884 , agorwyd y doc 1889 ) er mwyn torri ar fonopoli y Bute Docks a'r T.V.R. Aethai i fyw i'r Mwmbwls , lle y bu f. 1 Ion. 1888 . Daeth ei fab, Frederick Lewis Davis , ( 1863 - 1920 ) yn olynydd iddo fel cyfarwyddwr ei weithiau glo .

Llyfryddiaeth:

  • Elizabeth Phillips , A history of the pioneers of the Welsh coalfield , 1925 , 1925 ;
  • C. Wilkins , The South Wales Coal Trade and its Allied Industries, from the Earliest Days to The Present Time , Caerdydd, 1888 , 1888 ;
  • History of the Barry Railway Company, 1884-1921 , Caerdydd, 1923 , 1923 ;
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd , Dolgellau (yn enwedig 1854-66 );
  • Tarian y Gweithiwr , Aberdâr ;
  • Cardiff and Merthyr Guardian ( 1845 ymlaen);
  • Aberdare Times ,
  • Western Mail
  • a'r South Wales Daily News
  • a chyfeiriadau gwasgaredig eraill.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr