CYNDEYRN
(Yn Saesneg
KENTIGERN
), neu
MUNGO
(
518?
-
603
;
D.W.B.
, 1139a),
sant, sylfaenydd Glasgow
.
Ymddengys yn yr achrestrau
Cymreig
fel
Cyndeyrn
, mab
Owain ab Urien
, ac ŵyr
Urien Rheged
. Y mae
Owain
yn gymeriad pwysig yn y rhamantau yn
Llyfr Coch Hergest
, ac ymddengys ef a'i dad,
Urien
, yn y farddoniaeth
Gymraeg
gynnar a edrydd hanes brwydrau
tywysogion Brythonig
y Gogledd yn erbyn
Hussa
, mab
Ida
— gw. yr erthyglau ar
Lywarch Hen
a
Thaliesin
. Cysylltir y teulu, fodd bynnag, â
Strathclyde
, ac nid â
Chymru
yn ystyr bresennol y gair. Unig hawl
S.
Kentigern
i'w gynnwys yn y gyfrol hon yw'r traddodiad amheus iawn a'i gwna'n
sylfaenydd mynachdy ac esgobaeth
Llanelwy
. Ar y mater hwn gw. yr erthygl ar
Asaph
. Bu f.
13 Ion
., yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn
603
. Rhydd
Ann.C.
, y flwyddyn
612
, dyddiad llai tebygol.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, ii, 231-40;
-
J. E. Lloyd
,
A History of Wales
, 166;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Gelwir
Llangyndeyrn
,
sir Gaerfyrddin
, ar ôl sant arall o'r un enw. Yn ôl achrestrau'r
cyfnod canol diweddar yr oedd yn fab i
S.
Cyngar ap Garthog ap Ceredig ap Cunedda Wledig
. Dethlid ei ŵyl ar
25 Gorff.
, yn ôl yr hen ddull. Heddiw cynhelir y ffair yn gysylltiedig â'i ŵyl ar
5 a 6 Awst
yn
Llangyndeyrn
. Ni ddylid cymysgu rhwng ei dad,
Cyngar
, a'r
sant
Cyngar
/
Docwin
/
Dochau
, y ceir nodyn arno yn y
Bywg.
, 83a.
Llyfryddiaeth:
-
The Lives of the British Saints
, ii, 240, 248.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor