COSLETT, COSLETT ('Carnelian', 1834-1910), glöwr a bardd

Enw: Coslett Coslett
Ffugenw: Carnelian
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1910
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr a bardd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 15 Ebrill 1834 yn Nantyceisiaid neu Nantygleisiaid ger Machen. Yn fuan wedi hyn symudodd y teulu (a oedd yn perthyn i'r hen bregethwr Methodistaidd, Edward Coslet) i Fedwas. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth dan gyfarwyddyd Caledfryn a oedd ar y pryd yn weinidog Y Groes Wen, a dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau, ond ni fu erioed yn llwyddiannus mewn eisteddfod genedlaethol. Bu farw 25 Ebrill 1910 ym Mhontypridd, a chladdwyd ef ym mynwent Y Groes Wen, lle, yn ddiweddarach, yr adeiladwyd cofgolofn iddo (llun yn Cymru, O.M.E., xliii, 229).

Yr oedd ei frawd hynaf, WILLIAM COSLETT (Gwilym Elian, 1831 - 1904), swyddog mewn glofa, yn fardd hefyd. Trechodd Islwyn mewn llawer eisteddfod, ond ni fu yntau erioed yn llwyddiannus mewn eisteddfod genedlaethol. Bu ef farw 22 Medi 1904 yng Nghaerffili. Y mae'r ddau frawd, a oedd yn aelodau o 'Glic y Bont' neu'r 'Pont[ypridd] clique' - megis eraill fel Brynfab, Dewi Wyn o Essyllt, a Glanffrwd - yn enghreifftiau diddorol o'r beirdd hynny nad oedd iddynt lawer o fri fel unigolion, ond a ffurfiai ysgolion neu gylchoedd o feirdd yn nhrefi diwydiannol De Cymru yn ystod y 19eg ganrif.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.