Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEDLOE , WILLIAM ( 1650 - 1680) , anturiaethwr a hysbyswr ynglyn â'r Cynllwyn Pabaidd .

G. yng Nghas-gwent , sir Fynwy . Bu'n lleidr yn Lloegr ac yna'n dwyllwr ar y cyfandir, ac ar ôl ysbaid mewn carchar yn Valladolid , llwyddodd yn y gamp anodd o ddwyn arian oddi ar Titus Oates . Ym mis Hyd. 1678 , ar derfyn chwe mis o garchariad yn Newgate , cychwynnodd ar yrfa eithriadol o lwyddiannus fel hysbyswr drwy honni y medrai ddatguddio'r gwir ynglyn â llofruddiad Syr Edmund Berry Godfrey . Bu'n dyst yn erbyn dros ddeuddeg o offeiriaid , a chyhuddodd hyd yn oed y frenhines , Catherine o Braganza , o gynllwynio i lofruddio'r brenin . Bu f. ym Mryste 20 Awst 1680 . Honnai un o'i gyfoeswyr fod ganddo fwy o ddychymyg ac o huotledd nag Oates , a'i fod gystal ag ef fel celwyddgi ac anudonwr .

Ffynonellau:

  • Catholic Record Society , xlvii, xlviii;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • J. Pollock , The Popish Plot. A study in the history of the reign of Charles II .

Awdur:

John Martin Cleary, Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970