WILLIAMS, DAVID LLEWELYN (1870 - 1949), meddyg

Enw: David Llewelyn Williams
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1949
Priod: Margaret Ann Williams (née Price)
Plentyn: Eric Llewelyn Williams
Plentyn: Enid Llewelyn Jones (née Williams)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Alun Llywelyn-Williams

Ganwyd 3 Chwefror 1870, yn Nhal-y-bont, Dyffryn Conwy, lle'r oedd ei dad, John Williams, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Symudodd y teulu i'r Hen Golwyn yn 1882. Cafodd Llewelyn Williams ei addysgu yn ysgolion Tal-y-bont a'r Hen Golwyn (lle bu'n gyd-ddisgybl â T. Gwynn Jones) ac mewn ysgol breswyl breifat yn Llandudno. Yn 1885 aeth i'r Rhyl yn brentis mewn siop fferyllydd, ond pan oedd yn 25 oed ymaelododd yn Surgeons' Hall, Edinburgh. Cafodd yrfa ddisglair yno. Graddiodd yn feddyg yn 1900, ac wedi ennill ohono drwy arholiad gymrodoriaeth y Royal College of Surgeons, Edinburgh, arbenigodd ym mhwnc iechyd y cyhoedd. Wedi iddo ddal swyddi yn ysbytai Edinburgh a Leith, ac fel meddyg llong gyda Chwmni'r P. & O., fe'i penodwyd yn 1905 yn swyddog iechyd bwrdeistref Wrecsam. Priododd yn y flwyddyn ganlynol, â Margaret Price o'r Rhyl, a bu iddynt ddau fab, Eric ac Alun ac un ferch, Enid. Yn 1907 fe'i penodwyd yn swyddog iechyd sir Ddinbych, ac ef ydoedd y swyddog iechyd sirol cyntaf yng Nghymru. Pan ffurfiwyd Comisiwn yr Yswiriant Cenedlaethol dros Gymru yn 1912, gwahoddwyd ef i weithredu arno fel dirprwy swyddog meddygol, a symudodd i fyw i Gaerdydd. Yn ystod rhyfel 1914-18, ymaelododd â'r R.A.M.C., a gwasanaethodd yn Ffrainc, am ran helaeth o'r amser gyda mintai o wŷr a gynhullwyd ganddo ef ei hun, sef 77ain Fintai Iechydol y 38ain Adran (Gymreig) y fyddin. Enillodd y M.C. am ei wrhydri ym mrwydr Mametz. Dychwelodd i Gaerdydd wedi'r rhyfel, ac yn 1920 dyrchafwyd ef yn brif swyddog meddygol Bwrdd Iechyd Cymru. Ymneilltuodd o'r swydd hon yn 1935, ac fe'i hanrhydeddwyd am ei wasanaeth ynddi trwy ei urddo yn C.B.E. Yn 1939 aeth i fyw i'r Hen Golwyn drachefn. Bu farw yn Lerpwl ar 12 Mai 1949. Claddwyd ef, gyda'i wraig a fuasai farw y flwyddyn gynt, ym mynwent capel y M.C. yn Tal-y-bont.

Gyda iechyd y cyhoedd ac yn nhrefniadaeth addysg feddygol y gwnaeth Llewelyn Williams ei gyfraniad mwyaf. Yr oedd yn arloesydd gyda'r gwaith o geisio argyhoeddi'r awdurdodau lleol a'r werin Gymreig o bwysigrwydd meddygaeth ataliol. Gellir priodoli i'w lafur a'i fedr ef, ar waethaf anawsterau, lawer o lwyddiant y cynllun yswiriant iechyd yng Nghymru pan ddaeth hwnnw i rym gyntaf. Teithiodd led-led Cymru yn annerch ar broblemau iechyd, dirwest, a phurdeb moes, a sgrifennodd lawer yn Gymraeg ar y materion hyn. Nid yng Nghymru'n unig y gwelwyd ôl ei lafur.

Gweithiodd yn ddiwyd tra bu yn Ffrainc yn ystod rhyfel 1914-18 dros fuddiannau iechydol y bobl hynny a drigai ar fin y meysydd brwydro, a chydnabuwyd ei wasanaeth gan Arlywydd Ffrainc, a'i anrhydeddu gyda'r Médaille des Epidémies a'r Médaille de la Reconnaissance Française. Yr oedd yn llawn mor eiddgar dros addysg feddygol. Bu'n gefnogydd selog o'r dechrau i'r bwriad o gael ysgol feddygol at hyfforddi meddygon yng Nghymru, a phan sefydlwyd yr Ysgol Feddygol yn 1930, gwnaed ef yn aelod o'i Chyngor. Yn y man, fe'i hetholwyd yn ddirprwy-gadeirydd y Cyngor, a daliodd y swydd hon hyd ei farw. Bu'n aelod hefyd o gyngor y Gofeb Genedlaethol Gymreig er atal y Darfodedigaeth o'i sefydlu hi yn 1912. Derbyniodd radd LL.D. (er anrhydedd) gan Brifysgol Cymru yn 1947.

Bwriadodd Llewelyn Williams ar un adeg fynd yn genhadwr i'r India, ac er na bu hynny'n bosibl, cadwodd ei ddiddordeb yng ngwaith Cenhadaeth Dramor Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Assam ar hyd ei oes. Yr oedd yn un o'r tri Chomisiynydd a anfonwyd i arolygu'r Maes Cenhadol yn 1935, a gwnaeth lawer i ddod â'r gwaith da a wnaed ar y maes gan ysbytai'r Genhadaeth i sylw ei gydwladwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.