WILLIAMS, ALICE MATILDA LANGLAND (1867-1950), neu Alys Mallt, ond yn fwy adnabyddus fel y Fonesig Mallt Williams awdur a Cheltgarwraig

Enw: Alice Matilda Langland Williams
Rhiant: Jane Williams (née Robertson)
Rhiant: John James Williams
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur a Cheltgarwraig
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwladgarwyr
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Aberclydach, Llanfeugan, sir Frycheiniog, 4 Hydref 1867, yn bedwerydd plentyn John James Williams, M.D. ('Brychan'), ac yn un o ddwy chwaer i William Retlaw Jefferson Williams. Daeth yn ieuanc o dan ddylanwad Arglwyddes Llanofer, a chadwodd ei diddordeb mewn mudiadau diwylliannol a gwleidyddol Cymreig a Cheltaidd ar hyd ei hoes. Cysylltir ei henw hi a'i chwaer Gwenfrida [ Cate ] ('Gwenffrida ferch Brychan') gydag enw'r Arglwyddes yn y gerdd ' An Diou Vag ' a gyfansoddodd François Jaffrennou ('Taldir') ar ôl eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1899, a'i chyhoeddi yn Gwerziou gant Abherve ha Taldir, Saint-Brieuc, 1899. Hi a'i chwaer oedd ' The Dau Wynne ', awduron y nofelau One of the Royal Celts …, Llundain, 1889, a A Maid of Cymru …, eto, 1901. Bu'r chwaer farw yn 1914. Fel Maud Williams, Aberclydach, Mallt oedd yr ail i ymuno ag Urdd y Delyn a sefydlwyd gan O. M. Edwards yn 1896. Yr oedd yn gydysgrifenyddes â Gwyneth Vaughan i Undeb Y Ddraig Goch yn 1903. Am rai blynyddoedd bu'r mudiad hwn yn cyflwyno gwobrau am ganu penillion, canu'r delyn, darllen llyfrau Cymraeg a siarad Cymraeg. Yn ddiweddarach, rhoddai Mallt wobrwyon am gael telyn mewn eisteddfodau cenedlaethol o dan yr enw ' Gwobrwyon Aberclydach '. Hi oedd sefydlydd ac arweinydd Ysbïwyr y Frenhines ym Myddin Cymru drwy gyfrwng Cymru'r Plant o 1911 hyd tua 1916. Ymdynghedai'r aelodau i ' wasanaethu Cymru â'r galon, y meddwl, y tafod a'r llaw '. Erbyn hyn yr oedd hi wedi symud i fyw i Blas Gwynnon Dôl yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. Yn 1915 symudodd drachefn i Blas Pantsaeson ger Llandudoch yn Sir Benfro lle y treuliodd weddill ei hoes.

Preswyliai gyda'i brawd ieuengaf

FREDERICK GEORGE ROBERTSON 'Jim' WILLIAMS ('Brychan')

Gadawsai Aberclydach pan etifeddodd ei frawd hynaf y stâd. Symudodd i Gapel Isaf ger Llandeilo ac yn 1916 prynodd stâd Plas Pantsaeson gan symud yno gyda'i wraig 'Daisy' neu 'Modie', sef Hylda Marguerite merch yr uchgapten Penry Lloyd. Ymddiddorai mewn fforestiaeth ac fel rhan o'i ymdrech i wella'r stâd plannodd goed yn helaeth. Fel Mallt ei chwaer yr oedd yn amlwg iawn mewn cynulliadau Celtaidd ar gyfrif ei wisg ar ffurf dybiedig gwisg arglwydd o Gymro o'r drydedd ganrif ar ddeg. Bu farw yn 75 oed ar 11 Ionawr 1945 a chludwyd ef i'w gladdu ym mynwent eglwys Wythr ar gambo. Disgrifir ef ar ei feddargraff fel 'Hollgelt'. Bu farw ei weddw yn yr un lle 2 Chwefror 1952. Bu iddynt ddau fab ac un ferch.

Cydweithiodd yr hynaf o'r bechgyn, Ioan Penry Brychan Robertson, gyda'i fodryb Mallt i gyhoeddi Llyfr Penblwydd Cymraeg yn 1929. Dilynai Mallt gyfarfodydd mudiadau cenedlaethol Cymreig a Gwyddelig gyda mawr sêl a safai'n gadarn dros Gymreictod ar dafod ac mewn gwisg. Yn ei neges flynyddol i Ysbïwyr y Frenhines anogai'r aelodau i efelychu brwdfrydedd y Gwyddyl, ond bu'n dawedog ar ôl Rhyfel Pasg 1916. Ar hyd y blynyddoedd bu'n gefn i'r Eisteddfod Genedlaethol, y mudiad drama yng Nghymru, Urdd Gobaith Cymru a Phlaid Genedlaethol Cymru. Yn ei blynyddoedd olaf ei chanpunt hi oedd ar ben rhestr Cronfa Gwyl Dewi 'r Blaid. Yr oedd yn selog dros yr ymgyrch yn erbyn sefydlu gwersyll ymarfer i'r llu awyr ym Mhorth Neigwl a Phenyberth ac oddi wrthi hi y daeth yr awgrym am yr enw 'Ysgol Fomio'. Ni chyffyrddai â chigoedd ac arddelai ffydd dilynwyr Mary Baker Eddy. Bu farw 28 Hydref 1950 ym Mhlas Pantsaeson. Amlosgwyd ei chorff ym Mhontypridd, a gwasgarwyd ei llwch ym mynwent Llansanffraid, sir Frycheiniog. Ceir ei llun ar dud. 44 Cymru, xxix, 1905.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.