Yn 1924 symudodd Vaughan i Ddinbych-y-pysgod ac yno yr ysgrifennodd ei waith mwyaf adnabyddus o safbwynt Cymru, sef The South Wales Squires (1926). Yr oedd ei wybodaeth am hen deuluoedd tiriog Cymru yn eang; dyna'n ddiau a barodd iddo gystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol ar y testun — ‘Jacobitiaid Cymru’ (a gyhoeddwyd yn Cymmr. Trans.) 1920, ac ysgrifennu (yn Cymmr. Trans., 1911-12, 1919-20) ar Thomas Johnes yr Hafod (q.v.) a'i wasg argraffu breifat.
Ysgrifennai'n fynych hefyd i gyfnodolion a newyddiaduron, yn enwedig i'r West Wales Historical Records, Journal of the Welsh Bibliographical Society, Welsh Outlook, y Western Mail, a rhai o gyfnodolion mwyaf adnabyddus Lloegr.
Cofféir Vaughan hefyd am ei wasanaeth gwerthfawr dros dymor hir (1916-48) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru — fel cynghorwr a phwyllgorwr ac fel rhoddwr hael i'r sefydliad hwnnw. Rhoes i'r Llyfrgell gasgliad ei hen-daid Benjamin Millingchamp (Bywg. 596) o'r llawysgrifau dwyreiniol a gasglasai hwnnw — am fanylion gweler ‘Life and Letters of the Venerable Benjamin Millingchamp’ (N.L.W. MSS. 13915-7 yn awr) a Hermann Ethé, N.L.W. Catalogue of Oriental Manuscripts (1916). Yr oedd yn awdurdod ar blatiau llyfrau; bu'n cynorthwyo i gatalogio casgliad helaeth Syr Evan Davies Jones, barwnig, ac efe a gatalogiodd (1938) gasgliad Aneurin Williams (yn LL.G.C.). Pan oedd yn byw yn yr Eidal casglodd lawer o lyfrau prin a chain; y mae'r casgliad hwn yn LL.G.C. bellach. Ychydig cyn ei farw ysgrifennodd fath ar hunangofiant — ‘Memoirs of a Literary Bloke’ (N.L.W. MS. 14341) a ‘Notes on the Life of Dorothy, Viscountess Lisburne’ aelod o deulu Fychaniaid Trawsgoed (sir Aberteifi) yr oedd yntau'n perthyn ar un ochr iddo (N.L.W. MS. 14647). Bu f. 31 Gorff. 1948 yn Ninbych-y-Pysgod.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth