Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JOHN ( 1857 - 1944 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur ; g. 25 Meh. 1857 ym Maes-teg , sir Forgannwg . Wedi i'r glöwr anafus hwn ddechrau pregethu (gyda'r Saeson) aeth i academi Richards yn Aber-afan , ac yn 1881 i goleg Pontypŵl . Enillodd ysgoloriaeth (30p.) yng ngholeg y Brifysgol , Bangor , a chafodd ysgoloriaeth Arglwydd Penrhyn (50p.) ddiwedd y flwyddyn. Ym Mangor daeth o dan gyfaredd Henry Jones , a chyfeirir ato fel disgybl disglair yn Old Memories , 176. Graddiodd yn B.A. , ac M.A. , Prifysgol Llundain . Gweinidogaethodd yn Saledine Nook , Huddersfield , 1887-93 , Myrtle Street , Lerpwl , 1893-1914 , a Sutton , 1915-20 . Bu'n athro pregethyddiaeth yn athrofa Manceinion , a rhoddai wersi, wedi ymddeol, yn y coleg Beiblaidd , Abertawe . Medrai bregethu'n Gymraeg , ond yn Saesneg yr oedd yn rheng flaenaf goreugwyr Lloegr . Cyhoeddodd gyfrolau o'i bregethau, cyfrolau ar lyfrau Moses ac athroniaeth, a chyfrolau o'i farddoniaeth — The Iris and other poems , Psyche and other Poems , Caniadau John Garth (yr unig un yn Gymraeg ). Bu f. 20 Medi 1944 , a chladdwyd ef yng Ngorseinon .

Llyfryddiaeth:

  • Seren Gomer , 1935 , 47, 1946 , i.
  • [ Baptist Handbook , 1944-6 , 330]

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert