Aeth o ysgol ramadeg y Cei Newydd i goleg y Brifysgol , Aberystwyth , ac enillodd y graddau B.Sc. a B.A. (Llundain) . Bu'n athro yn Abertyleri a Merthyr cyn mynd yn bennaeth ysgol uwchradd Mynwent y Crynwyr . Ymneilltuodd yn 1931 , a byw yn Aberystwyth hyd ei f. 2 Rhag. 1945 ; claddwyd ym mynwent Bwlch-y-groes , Llandysul .
Enillodd gadair yr eisteddfod genedlaethol yn y Fenni yn 1913 , a gwobrwyon eraill o dro i dro am gyfieithiadau, ysgrifau, telynegion, soned ac englyn. Bu'n un o feirniaid yr awdl yn Llanelli ( 1930 ), a Bangor ( 1943 ). Yr oedd yn lluniwr epigramau medrus, yn ysgolhaig â diddordeb mewn ystyron geiriau , ac yn llenor graenus a fyddai wrth ei fodd yn disgrifio golygfeydd a chymeriadau ac arferion cyfnod ei febyd yng nghyffiniau Banc Siôn Cwilt . Sgrifennodd lawer i gylchgronau, cyhoeddwyd rhai o'i gerddi mewn casgliadau, a bu llawer o adrodd arnynt.
Cyhoeddwyd o'i law Ar Lan y Môr, a Chaneuon Ereill ( 1898 ); Stori Shaci'r Gwas ( 1906 ); Breuddwyd a Sylwedd ( 1909 ); Amnon ( 1909 ); Odlau Môr a Mynydd ( 1912 ); Blodau Drain Duon ( 1935 ); Storïau ar Gân ( 1936 ); Catiau Cwta ( 1940 ); Patrymau Gwlad ( 1943 ) a Chwedlau Cefn Gwlad ( 1944 ).
Y Parch. Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn / Aberystwyth
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth