TANNER, PHILIP (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin

Enw: Philip Tanner
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1950
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llangynydd ym Mroŵyr, 16 Chwefror 1862, gwehydd, o hen dylwyth o wehyddion, a'r olaf a wisgai frethyn cartre Broŵyr. Yn ei ieuenctid, gweithredai'n aml fel 'gwahoddwr' mewn priodasau. Cofiai nifer mawr o ganeuon gwerin ei fro, ac o'i dawnsiau gwerin hefyd, a chyda'i gymorth ef gallodd y ' Gower Society ' eu rhoi ar glawr a chadw. Bu farw 19 Chwefror 1950, ym Mhenmaen, Broŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.