Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STANTON , CHARLES BUTT ( 1873 - 1946 ), aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdâr , 1915-1922 ; g. Aberaman , Aberdâr , 7 Ebr. 1873 . Pan adawodd yr ysgol bu'n was bach gyda theulu ym Mhen-y-bont-ar-ogwr , ond yn ddiweddarach aeth i'r lofa yn ei dref enedigol. Daeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod streic yr haliers yn 1893 pan gyhuddwyd ef o danio gwn yn un o'r ysgarmesoedd rhwng y glowyr a'r heddlu . Fe'i cafwyd yn euog o feddu gwn heb drwydded a'i ddedfrydu i chwe mis o garchar. Bu'n amlwg drachefn yn streic y glowyr yn 1898 ac yn streic y docwyr yn Llundain yr un flwyddyn, oblegid aeth yno i chwilio am waith pan gaewyd glofeydd Aberdâr . Daeth adref a bu'n un o'r rhai a sefydlodd gangen leol y Blaid Lafur Annibynnol yn 1900 ac a wahoddodd Keir Hardie i fod yn ymgeisydd ac ennill y sedd yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno. O 1903 hyd at 1908 bu Stanton yn aelod o gyngor tref Aberdâr . Pan fu Hardie farw yn 1915 etholwyd Stanton yn aelod seneddol yn ei le yn yr is-etholiad. Safodd fel un pleidiol i bolisi'r weinyddiaeth ar y pryd yn y rhyfel yn erbyn yr Almaen . Gwrthwynebwyd ef gan James Winstone ( Bywg. 1023) , llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru . Ail-etholwyd Stanton yn etholiad cyffredinol 1918 pan drechodd y Parch. T. E. Nicholas , yr ymgeisydd pasiffistaidd. Gwnaed Stanton yn Uwch-gwnstabl Meisgyn Uchaf yn 1919-20 , ac yn 1920 derbyniodd y C.B.E. Yn etholiad 1922 trechwyd ef gan G. H. Hall , ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur . Bu fyw weddill ei oes yn Hampstead . Yr oedd yn wr urddasol ei olwg ac yn ystod y dauddegau a'r tridegau bu'n actio mewn nifer o ffilmiau , yn rhyfedd ddigon, a chofio'i gefndir, yn actio rhannau aristocratiaid a chlerigwyr. Yr oedd yn briod a chanddo ddau fab; lladdwyd un yn 1917 . Bu f. yn Llundain , 6 Rhag. 1946 .

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth breifat;
  • Who was who? .

Awdur:

Yr Athro Huw Morris-Jones, D.Phil., (1912-89), Bangor