SALMON, DAVID (1852 - 1944), pennaeth coleg hyfforddi athrawesau ysgol

Enw: David Salmon
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1944
Priod: Mary Salmon (née Wiedhofft)
Rhiant: Martha Salmon
Rhiant: James Salmon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth coleg hyfforddi athrawesau ysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Williams

Ganwyd 30 Ionawr 1852 ym mhlwyf Trefdraeth, Sir Benfro, mab James a Martha Salmon. Buasai ei gyndadau o'r ddwy ochr yn ffermio am genedlaethau ym mhlwyf Nanhyfer. Bu'n ddisgybl-athro yn Hwlffordd o 1865 hyd 1869, yn efrydydd yng ngholeg Normal Borough Road, role="education"> Llundain, 1870-71, ac yn athro yn y coleg hwnnw y flwyddyn ddilynol. O 1875 hyd 1891 bu'n brifathro ysgol fwrdd yn Belvedere Place, Borough Road, ac yna fe'i dewiswyd yn bennaeth coleg athrawol Abertawe i ferched, lle y bu hyd 1922. Yn ystod y 30 mlynedd y bu yno, bu'n foddion i ddatblygu maes a gweithrediadau'r sefydliad hwnnw yn fawr.

Bu Salmon yn gyfrifol am dros 30 o gyhoeddiadau - llyfrau ysgol ac argraffiadau o glasuron Saesneg, gan mwyaf, a defnyddiwyd llawer ar rai ohonynt. Yr oedd iddo ddiddordeb arbennig mewn rhai agweddau ar hanes Cymru ac ysgrifennodd amryw erthyglau arnynt; yn eu plith y mae ' A Welsh Education Commission' (1846), yn Cymm., 1913; ' The Quakers in Pembrokeshire ' yn West Wales Historical Records, 1923 a 1927, a ' The Descent of the French on Pembrokeshire ', West Wales Historical Records 1929 (ychwanegodd at yr erthygl hon a'i chyhoeddi'n waith ar wahan yn 1930); ' A Sequel to the French Invasion of Pembrokeshire ', yn Cymm., 1932. Ysgrifennai lawer hefyd ar faterion hanesyddol lleol i newyddiaduron lleol Sir Benfro.

Yn 1919 rhoes Prifysgol Cymru radd M.A. ('er anrhydedd') iddo. Priododd 1876, Mary Wiedhofft, Llundain (bu hi farw yn 1925) a bu iddynt 5 o blant. Bu farw 14 Rhagfyr 1944 yn Llanbedr Efelffre, Sir Benfro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.