ROBERTS
,
RICHARD ARTHUR
(
1851
-
1943
),
archifydd a golygydd
;
g.
13 Mai 1851
yng
Nghaerfyrddin
yn fab i
J. N.
Roberts
a
Margaret
(née
Jones
)
, ei wraig. Addysgwyd ef mewn ysgolion preifat, ac yn
1872
penodwyd ef yn
glerc
ar staff yr
Archifdy Gwladol
yn
Llundain
. Yn
1879
gwnaed ef yn
fargyfreithiwr
o'r
Inner Temple
. Dyrchafwyd ef i fod yn
geidwad cynorthwyol
yn yr
Archifdy Gwladol
yn
1903
, ac o
1912
hyd nes iddo ymddeol yn
1916
ef oedd y
prif geidwad cynorthwyol
a hefyd
ysgrifennydd
y sefydliad. O
1900 hyd 1919
gwasanaethai hefyd fel
archwiliwr (cyfreithiol)
yn unol ag amodau
Deddf yr Archifdy Gwladol
,
1887
. Ef oedd
ysgrifennydd
yr
Historical MSS Commission
o
1903 hyd 1912
, ac yn
1912
gwnaed ef yn aelod o'r comisiwn. Golygodd
The Court Rolls of the Lordship of Ruthin … of the Reign of King Edward the First
(
Llundain
,
1893
);
A Calendar of Home Office Papers of the Reign of George III
, vol. iii, 1770-1772 (
Llundain
,
1881
), vol. iv, 1773-1775 (
Llundain
,
1899
); a
A Calendar of the Inner Temple Records
, vol. iv (
Llundain
,
1933
), vol. v. (
Llundain
,
1936
). Bu iddo ran amlwg yn y gwaith o
olygu
A Calendar of the MSS. of the Marquis of Salisbury
, vols. 4-12, a gyhoeddwyd gan yr
Historical MSS Commission
, ac ef hefyd oedd
awdur
The Episcopal Registers of the Diocese of St. Davids 1397 to 1518, vol. iii, A Study of the Published Registers
(
Llundain
,
1920
). Cyhoeddodd ddwy erthygl yn ymdrin â chofysgrifau yn ymwneud â
Chymru
, sef ‘
The Public Records relating to Wales
’ (
Cymm.
, x,
1889
), a ‘
Welsh Records and a Record Office for Wales
’ (
Trans. Cymm.
,
1915-6
). Yn
1884
priodasai
Agnes
, merch
Samuel
Hallam
, a bu iddynt un mab a thair merch. Bu f.
2 Ebrill 1943
, yn
Orford
,
Woodbridge
.
Llyfryddiaeth:
-
The Times
,
6 Ebr 1943
;
-
Who was who?
,
1941-50
.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth