Cywiriadau

REES, JOHN THOMAS (1857 - 1949), cerddor

Enw: John Thomas Rees
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1949
Priod: Elizabeth Rees (née Davies)
Rhiant: Hannah Rees (née Morgan)
Rhiant: Thomas Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awdur: David Ewart Parry Williams

Ganwyd 14 Tachwedd 1857 yng Nghwmgïedd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Ychydig o ysgol a gafodd gan iddo fynd i weithio mewn glofa pan oedd yn wyth oed. Pan oedd yn löwr yn Ystradgynlais, Dyffryn Rhondda, ac Aberdâr, cafodd ddisgyblaeth gerddorol dda trwy gyfrwng nodiant y tonic sol-ffa. Pan oedd yn 21 oed daeth i beth amlygrwydd fel cyfansoddwr cantata a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth mewn eisteddfod yn Nhreherbert. Crewyd cronfa fechan gan gyfeillion, a thrwy gymorth hon galluogwyd ef i dreulio ychydig amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant Dr. Joseph Parry. Yn 1895 enillodd wobr o ugain punt yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr am bedwarawd i offerynnau llinynnol. Yn gynnar wedyn graddiodd yn Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto; ychydig yn ddiweddarach, yn ystod ymweliad â'r America, bu ganddo swydd yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru ym sefydlodd yn Bow Street, gerllaw Aberystwyth, fel athro dosbarth oedolion yn astudio cerddoriaeth, fel arweinydd corau gwlad a berfformiai oratoriau a gweithiau cyffelyb, ac, yn ddiweddarach, fel athro amser-byr yng Ngholeg Aberystwyth. Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfansoddwr llawer o donau ac anthemau, arweinydd cymanfaoedd canu, a beirniad mewn eisteddfodau. Bu am flynyddoedd yn athro cerdd rhan amser yn Ysgol Sir Tregaron. Daeth ei bennaf ddiddordeb i'r amlwg mewn llu o gyfansoddiadau crefyddol, yn cynnwys 'Duw sydd Noddfa' (gwobrwyedig yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr, 1890), 'Y Teulu Dedwydd' (cantata), 'Crist yr Andes' (cantata i blant), 'Hosannah' a 'Christos' (gosodiadau o wasanaethau i blant). Ymysg gweithiau cyhoeddedig eraill y mae 'String Quartet' (1895), 'Y Trwbadŵr' (seiliedig ar eiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym) mewn cydweithrediad ag S. M. Powell yn Nhregaron, a 'Hillsides of Wales' (i feiolin a piano). Golygodd gasgliad o donau gan Dafydd Lewis, Llanrhystud, Perorydd yr Ysgol Sul (casgliad o donau ac anthemau i blant), ac yr oedd yn gyd-olygydd Llyfr Hymnau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd (1897) ac Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd (1927).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

REES, JOHN THOMAS

Ganwyd yn Llwynbedw ger Cwmgïedd, Brycheiniog, yn fab i Thomas a Hannah (ganwyd Morgan) Rees. Bu farw ei fam pan nad oedd ef ond wyth mlwydd oed. Yn naw oed dechreuodd weithio mewn glofa, ac ym mhen blwyddyn bu'n bugeilio defaid ei dad yn Llwynbedw. Toc dilynodd ei dad i'r Rhondda a gweithio yng nglofa Abergorci, lle y cafodd ddamweiniau a adawodd greithiau ar ei wyneb dros weddill ei oes. Yn 1871 yng Nghwmgïedd adeg streic tarawyd ef yn glaf o'r teiffoid. Dysgodd gerddoriaeth yn nhŷ capel Cwmgïedd gyda William Jones o Ben-twyn. Casglodd bum punt i brynu harmoniwm yn Abertawe. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth i blant y pentre pan oedd yn 17 oed, Daniel Protheroe yn un ohonynt. O 1876 i 1879 cartrefai yng Nghwmaman, lle y meistrolodd Sol-ffa o dan D. W. Lewis, Brynaman. Yn 1879 aeth i Goleg Aberystwyth yn ddisgybl i Joseph Parry, ond prin oedd ei adnoddau ariannol, a'i ragolygon yn dywyll nes i David Jenkins ei gymeradwyo i gymryd dosbarthiadau mewn cerddoriaeth ym Mhen-y-garn i ddysgu'r Sol-ffa. Yn 1881 priododd Elizabeth Davies o Ben-y-garn ac yn 1882 aeth allan i Emporium, Kansas, ond dychwelodd i Ben-y-garn yn 1883.

Awdur

  • Evan David Jones, (1903 - 1987)

    Ffynonellau

  • D. H. Lewis, John Thomas Rees cofiant ( Llandysul 1955 )... cofiant (1955)

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.