REES
,
GEORGE
(
1873
-
1950
),
bardd ac emynydd
;
g.
20 Ion. 1873
yn y
Dinas
,
Cwm Rhondda
,
Morgannwg
. Yn fuan wedi ei eni symudodd ei rieni i fyw i
Ben-y-graig
, ac yno y magwyd ef. Wedi derbyn ei addysg yn yr ysgol elfennol aeth i
weithio i'r lofa
, a chafodd gwrs o addysg i'w gymhwyso i fod yn
swyddog glofa
. Yn
1900
priododd
Kate Ann
, merch
Thomas
Roberts
,
prif gyfrifydd
yn
Chwarel Oakeley
,
Blaenau Ffestiniog
. Ymsefydlodd mewn
masnach
ym
Mhont Rhondda
, ac wedi hynny yn
Llundain
ac yn
Abertyleri
,
sir Fynwy
. Penodwyd ef i swydd gyfrifol
mewn swyddfa cwmni yswiriant
yn
Llundain
, lle y gwasanaethodd hyd ei ymneilltuad yn
1941
, pan ddaeth i fyw i
Brestatyn
,
sir Fflint
. Wedi colli ei briod yn
1945
, aeth i fyw at ei ferch, priod yr
Athro
R. H.
Evans
(
Prifysgol Leeds
),
Headingley
,
Leeds
. Yr oedd yn
fardd
a
llenor
da. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, ac enillodd wobrwyon yn yr
eisteddfodau cenedlaethol
canlynol: —
Lerpwl
,
1929
, ar y cywydd ‘
Machlud Haul
’; ym
Mhwllheli
,
1925
, ar yr englyn ‘
Balm
’;
Abertawe
,
1926
, ‘
Ty to Gwellt
’, (cyd-fuddugol ag
‘
Eifion Wyn
’)
;
Treorci
,
1928
, ‘
Colyn
’;
Aberafan
,
1932
, ‘
Cyfaill
’.
Cyfansoddodd amryw o emynau
, ac ystyrir ei emyn ‘
O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd
’ yn un o emynau mwyaf y ganrif. Bu f.
1 Medi 1950
yn nhŷ ei ferch yn
Leeds
, a chladdwyd ef ym
mynwent Willesden Green
,
Llundain
,
6 Medi 1950
.
Llyfryddiaeth:
-
Trysorfa y Plant
,
Chwef. 1938
;
-
Yr Eurgrawn Wesleyaidd
, Dolgellau
,
1934
;
-
J. Thickens
,
Emynau a’u Hawduriaid
. [1945.]
1945
;
-
Y Goleuad
,
6 Medi, 11 a 25 Hyd. 1950
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn