OWEN, EDWARD (1853 - 1943), bargyfreithiwr, swyddog yn y gwasanaeth sifil, hynafiaethydd, a hanesydd

Enw: Edward Owen
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1943
Rhiant: Sarah Owen
Rhiant: Edward Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr, swyddog yn y gwasanaeth sifil, hynafiaethydd, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Hugh Owen

Ganwyd ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, 9 Mawrth 1853, unig fab Edward a Sarah Owen a fu am gyfnod yn ddirprwy prif gwnstabl sir Fôn. Symudodd y teulu i Gaergybi yn 1863. Addysgwyd ef yn ysgol John Evans ym Mhorthaethwy, ac mewn ysgol breifat yn Nulyn. Efe oedd y Cymro cyntaf i gael ei dderbyn i'r gwasanaeth sifil ar bwys arholiad; dechreuodd weithio yn yr India Office c. 1873 a bu yno hyd nes ymddeolodd yn 1913. Yn ystod y trigain mlwydd y bu'n byw yn Llundain treuliai ei holl oriau seibiant yn darllen a chopïo yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r Archifdy Gwladol. Ysgrifennodd lawer i gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac i Archaeologia Cambrensis; y Cymmrodorion a gyhoeddodd, mewn pedair cyfrol, ei Catalogue of the Manuscripts relating to Wales in the British Museum; ceir yn adroddiad y comisiwn brenhinol ar dir Cymru, a ddechreuodd ar ei waith yn 1893, adran wedi ei hysgrifennu ganddo ef ar gyfnewidiadau yn nulliau dal tir yng Nghymru yn y Canol Oesoedd; gyda'i gyfaill, Alfred Neobard Palmer, cyhoeddodd, yn 1910, Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru yn 1908; a golygodd adroddiadau'r comisiwn hwnnw hyd tua 1927. Bu'n ddarllenydd mewn Hynafiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Lerpwl, 1921-43. Cafodd radd M.A. er anrhydedd gan y Brifysgol honno yn 1921, a medal aur Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1923. Bu farw 8 Tachwedd 1943, yn 91 mlwydd oed, a chladdwyd ef dri diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent S. Seiriol, Caergybi, lle y claddwyd ei wraig gyntaf a'i ferch fechan flynyddoedd cyn hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.