Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , MORRIS BRYNLLWYN ( 1875 - 1949 ), athro coleg, hanesydd eglwysig, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr ; g. 15 Mawrth, 1875 , yn y Crymllwyn Bach , plwy Aber-erch , Sir Gaernarfon ; ar ôl treulio peth amser fel gwehydd yng Nghymru a Lloegr , aeth i Academi Holt , ger Wrexham , ac oddiyno yn 1897 derbyniwyd ef yn aelod o goleg y Bedyddwyr ym Mangor , a myfyriwr hefyd yng ngholeg y Brifysgol . Graddiodd yn B.A. yn 1903 , a chafodd ei ordeinio yn 1902 yn efrydydd-weinidog yn Llandegfan . Aeth am ei gwrs diwinyddol i goleg Presbyteraidd Caerfyrddin , a graddio'n B.D. yn 1906 . Am ran o 1906-7 bu'n weinidog yn Llaneurwg ger Caerdydd , ond cyn diwedd 1907 gwahoddwyd ef i fod yn athro yn ei hen goleg yng Nghaerfyrddin , gan broffesu Athroniaeth Crefydd hyd 1912 a Hanes yr Eglwys o hynny hyd ei farw, testun y cafodd ei wybodaeth o'r Tadau Groeg a Lladin lawn gyfle. Ef hefyd oedd llyfrgellydd y Coleg ; yn ychwanegol, bugeiliai (er 1925 ) eglwysi'r Bedyddwyr yn y Felin-gwm a'r Felin-wen . Bu'n olygydd Seren Cymru , 1930-33 . Gŵr tawedog, myfyriol, a swil ydoedd, ond daeth yn sydyn amlwg yn Undeb Caernarfon , 1937 , cyfarfod y Gymdeithas Hanes ; rhoddai anerchiad yno ar ‘ Christmas Evans a'i le yn ei gyfnod ’, llawn hiwmor sych a dangos meistrolaeth drwyadl ar y cefndir. Argraffwyd hwn yn Nhrafodion y gymdeithas am 1938 , a'i ddilyn gan ysgrif yn Nhrafodion 1945-47 ar ‘ Fedyddwyr dair canrif yn ôl ’, astudiaeth fanwl o weithiau Thomas Edwards , awdur y Gangræna . Yn rhifynnau cyntaf Seren Gomer am 1949 , nid oedd ganddo ddim llai nag wyth o gyfraniadau, y rhai trymaf ohonynt yn trin gwahanol agweddau ar hanes Bedyddwyr cynnar Lloegr a Chymru . Cyn diwedd yr un flwyddyn yr oedd pump ysgrif goffa amdano ef ei hun yn Seren Gomer , gwaith ei gydathrawon, hen ddisgyblion iddo, ac un cydfyfyriwr gynt, y Parch A. J. George . Bu f. 30 Gorff. 1949 .

Llyfryddiaeth:

  • Seren Cymru , 12 Awst 1949 ;
  • Seren Gomer , 1949 .

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor