NICHOLSON, WILLIAM JOHN (1866 - 1943), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: William John Nicholson
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1943
Rhiant: William Nicholson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 23 Rhagfyr 1866, yn 14 Vrondeg Street, Bangor, mab William Nicholson. Derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu yn 1886 a threuliodd y flwyddyn gyntaf yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ym Mai 1889 ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys Seisnig S. Paul's, Abertawe. Yn 1892 ymsefydlodd yn weinidog eglwys Salem, Porthmadog, ac yno yr arhosodd hyd 1940 pryd y gorfu iddo ymddeol oherwydd afiechyd ac amhariad ar ei olygon. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1929-30.

Etifeddodd gryn lawer o ddawn ei dad fel pregethwr a daeth i'r rheng flaenaf yn ifanc a chadwodd ei boblogrwydd i'r diwedd. Yr oedd wrth reddf yn bregethwr ac nid ymrwystrodd â nemor ddim y tu allan i'r pulpud; yr oedd yn fyfyriwr diwylliedig ac ni adawodd i'w ddawn fyned yn feistr arno; meddai arabedd a'i gwnai'n gymeriad ar ei ben ei hun ymysg ei frodyr. Bu farw 25 Tachwedd 1943 yn 77 oed a chladdwyd ym Mhorthmadog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.