MORGAN, EVAN FREDERIC (1893 - 1949), ail IS-IARLL TREDEGAR, bardd, arlunydd, milwr, a gwleidydd

Enw: Evan Frederic Morgan
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1949
Priod: Olga Morgan (née Dolgorouky)
Priod: Lois Morgan (née Sturt)
Rhiant: Katherine Agnes Blanche Morgan (née Carnegie)
Rhiant: Courtenay Charles Evan Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, arlunydd, milwr, a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Crefydd; Milwrol; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 13 Gorffennaf 1893 yn 33 Cadogan Terrace, Llundain, yn unig fab Courtenay Evan Morgan, 3ydd BARWN TREDEGAR, a'r Is-iarll cyntaf o greadigaeth 1926 a'r Fonesig Katherine Agnes Blanche Carnegie, merch y 9fed Iarll Southesk. Bu farw ei chwaer Gwyneth Erica (ganwyd 5 Ionawr 1895) mewn amgylchiadau sy'n dal yn ddirgelwch yn Rhagfyr 1924: cafwyd hyd i'w chorff yn afon Tawys a chyhoeddwyd dedfryd agored yn y cwest a ddilynodd ym mis Mai 1925. Addysgwyd yr Anrhydeddus Evan Morgan, fel yr adweinid ef am ran helaeth o'i oes, yn Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Geltaidd Rhydychen, ac yn Is-lywydd o'r cychwyn. Yn unol â thraddodiad ei deulu cymerodd gomisiwn yn y fyddin gan ddewis yn naturiol y Gwarchodlu Cymreig, 27 Mehefin 1915, ond ni chaniataodd ei iechyd iddo ddilyn gyrfa filwrol. Bu am dymor yn ysgrifennydd preifat i Ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Lafur, ac i Syr George Riddell pan oedd hwnnw yn cynrychioli'r Wasg Brydeinig yng Nghynhadledd Heddwch Paris. Ar ôl y Rhyfel bu'n swyddog cyswllt dros Gymru i'r Lleng Brydeinig, a bu'n noddwr ysbytai a mudiadau dyngarol. Gwasanaethodd fel almwner i Urdd S. Ioan yng Nghymru. Derbyniwyd ef i Eglwys Rufain toc wedi cyfnod y Rhyfel, a daeth yn un o farchogion Urddau Melita a'r Bedd Sanctaidd. Gwasanaethodd fel Ystafellydd Cledd a Chlôg i'r Pabau Bened XV a Phiws XI. Bu am dymor yn gysylltiedig â llysgenadaeth Prydain yn København. Ceidwadwr ac Undebwr ydoedd mewn gwleidyddiaeth, ac ymgeisiodd, yn aflwyddiannus, am sedd etholaeth Limehouse yn Stepney yn 1929. Mabwysiadwyd ef fel ymgeisydd Undebol dros etholaeth ganol Caerdydd yn 1931 ond ciliodd o blaid yr ymgeisydd Llafur Cenedlaethol. Er yn perthyn i deulu a dynnai gyfoeth lawer o'r diwydiant glo yr oedd o blaid dileu breindal ar fwynau.

Yr oedd yn wr galluog ac amryddawn. Bu'n peintio llawer yn ei ieuenctid ac arddangosodd ei waith yn Salon Paris. Casglai weithiau celfyddyd yn ddeallus yn arbennig weithiau o gyfnod y Dadeni yn yr Eidal. Cyhoeddodd un nofel - Trial by Ordeal, 1921, a nifer o gyfrolau o farddoniaeth Saesneg - Fragments, 1916, At Dawn, poems profane and religious, 1924, The eel and other poems, 1926, The city of canals and other poems, 1929, Gold and ochre, 1917, Psyche, an unfinished freagment, 1920, a A sequence of seven sonnets, 1920. Yr oedd yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a darllenodd bapur iddi ar agweddau ar gyfriniaeth Gristnogol yn 1928. Yn 1935 sefydlodd Ddarlith Tredegar i'r Gymdeithas er cof am ei dad, ac ef a draddododd y ddarlith gyntaf ar y testun 'John Donne - lover and priest'. Bu'n briod ddwywaith: (1) yn 1928 â'r Anrhydeddus Lois Sturt (bu farw 1937), merch yr ail Farwn Allington, ac yn (2) yn 1939 â'r Dywysoges Olga Dolgorouky, priodas a ddiddymwyd yn 1943. Bu farw yn Honeywood, Horsham, 27 Ebrill 1949, a darfu'r Is-iarllaeth gydag ef. Dilynwyd ef yn y farwniaeth gan ei ewythr, yr Anrhydeddus Frederic George Morgan (1873 - 1954), 5ed Barwn Tredegar, a thrwy drefniant y teulu yn yr ystad gan ei gefnder, yr Anrhyddeddus [Frederic Charles] John Morgan, y 6ed a'r olaf o Farwniaid Tredegar. Chwalwyd yr ystad, ond sicrhaodd yr olaf ddiogelwch archifau'r teulu drwy eu gosod yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol gyda'r cyfarwyddyd eu bod i aros yn eiddo'r Llyfrgell pe byddai iddo, fel y gwnaeth, farw yn ddi-etifedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.