Aeth i goleg Aberystwyth , ac oddi yno yn 1881 i Goleg Lincoln yn Rhydychen . Yn 1883 llwyddodd i ennill clod yn y dosbarth anrhydedd blaenaf yn yr arholiad cynradd mewn Groeg a Lladin , ac yn 1885 rhoddwyd ef yn yr un dosbarth yn yr arholiad terfynol mewn Hanes. Fe welir i'w yrfa yn Rhydychen bron gyrraedd ei therfyn cyn cyfnod y cwmni enwog o Gymry yn Rhydychen (megis Owen M. Edwards , a aeth yno yn Hyd. 1884 ), a'i bod wedi terfynu cyn sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ( 1886 ); ond wrth gwrs ni bu ef fawr o dro cyn ymgysylltu â'u dyheadau. Yn wir, yr oedd ar ryw ystyr wedi eu rhagflaenu, oblegid eisoes yn 1884 , pan nad oedd eto ond ar ganol ei gwrs gradd, yr oedd wedi ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am lawlyfr ar hanes Cymru hyd at 1282 — a gyhoeddwyd yn Nhrafodion yr Eisteddfod .
Dychwelodd i Aberystwyth yn 1885 , yn ddarlithydd mewn Cymraeg a Hanes . Bu yno hyd 1892 , ac yno, yn 1889 , y paratôdd i'r wasg gyfrol Hubert Lewis (a fuasai f. yn 1884 ), The Ancient Laws of Wales. Ond yn 1892 symudodd i Fangor , yn gofrestrydd Coleg y Gogledd ac yn gynorthwywr i'r Prifathro Reichel yn yr Adran Hanes . Arferai'n ddiweddarach ddisgrifio'n chwareus (ond prin yn ddeddfol gywir) sut y rhannai ei ddiwrnod gwaith yn y cyfnod hwnnw: ‘ darlithydd yn y bore, cofrestrydd yn y prynhawn, a chwilotwr fin nos’. Yr oedd yn gofrestrydd manwl a threfnus: yr oedd yn hynod bwyllog ac amyneddgar, a thrwy brofiad tyfodd yn bwyllgorwr defnyddiol dros ben; nid oedd ei well am eirio penderfyniad neu ddogfen swyddogol. Bu byth wedyn (nes i drymder ei glyw yn ei flynyddoedd diwethaf arafu peth ar ei ymateb mewn trafodaeth) yn aelod o bob math o bwyllgor yng Nghymru . Yn enwedig, bu o ddefnydd mawr pan aethpwyd ati i aildrefnu Prifysgol Cymru ( 1919 ); efô, er enghraifft, a luniodd gyfansoddiad ei Bwrdd Gwybodau Celtaidd , a bu'n Gadeirydd arno hyd 1940 . Bu'n amlwg hefyd yng ngwaith Cymdeithas Hynafiaethau Cymru , a bu ddwywaith yn Llywydd arni. Cyfeiriwyd eisoes at ei amlygrwydd yng nghynadleddau ei enwad. Ac ni ddylid er dim anghofio'i wasanaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ; darlithiai yn ei chyrsiau haf i athrawon, a sgrifennodd drosti lyfrau ysgol dwyieithog ar hanes Cymru . Bu hefyd yn gydweithiwr yng Nghymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol .
Parhaodd yn gofrestrydd Coleg y Gogledd hyd 1919 . Ond eisoes yn 1899 yr oedd wedi dilyn Reichel fel Athro Hanes . Dyma ddechrau cyfnod ffrwythlonaf ei yrfa, y cyfnod a'i cododd i'w wir enwogrwydd. Ysgrifennai'n ddyfal i'r cyfnodolion academaidd ar bynciau yn hanes Cymru. Ac yn 1911 dug allan ei waith mawr safonol, A History of Wales to the Edwardian Conquest , a aeth i dri argraffiad erbyn 1939 . Nid gormod yw dweud i'r llyfr hwn fod yn drobwynt yn astudiaeth hanes Cymru ; yr oedd yn ffrwyth beirniadaeth drylwyr ar y ffynonellau, ac yn gyflead eglur a darllenadwy o rediad hanes Oes y Tywysogion. Diwygiwyd rhai manion ynddo ganddo ef ei hunan (yn bennaf ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ) a chan ymchwilwyr eraill, ond hyd heddiw erys cyfangorff y gwaith. Enillodd drwyddo radd D.Litt. Rhydychen ( 1918 ). Yn 1930 , etholwyd ef yn gymrawd o'r Academi Brydeinig ( F.B.A. ), ac i honno y traddododd y ddarlith The Welsh Chronicles, a gyhoeddwyd gan Wasg Rhydychen yn 1930 — enghraifft nodweddiadol iawn o deithi meddwl ei hawdur.
Glynodd bron hyd y diwedd, yn ei waith ysgrifenedig, wrth hanes y cyfnod yr oedd wedi dechrau sgrifennu arno mor bell yn ôl â 1884 . Ond darbwyllwyd ef i symud ymlaen pan etholwyd ef gan Rydychen yn ‘ Ford Lecturer ’ yn 1931 . Dewisodd yn destun hanes Owain Glyn Dŵr , a chyhoeddwyd y gwaith, dan y teitl Owen Glendower (y wasg a ddewisodd y teitl) yn 1931 . Unwaith eto, gwelir ynddo nodweddion yr awdur — y feirniadaeth fanwl ar y ffynonellau a'r adroddiad eglur o hanes gyrfa Owain . Ysgrifennodd yn 1930 lyfr bychan ar holl hanes Cymru, yng nghyfres Benn — cyhoeddwyd trosiad Cymraeg o hwn yn 1943 , o Wasg Aberystwyth , dan y teitl Golwg ar Hanes Cymru . O ran hynny camgymeriad dybryd fyddai synied nad oedd ef yn wir hyddysg yn hanes ei wlad ar ôl 1415 . Ni raid ond wrth gipolwg ar y casgliad o'i nodiadau a gedwir yn Llyfrgell Coleg y Gogledd , i weled pa mor helaeth oedd ei ddiddordeb yn y cyfnodau diweddarach, a'i wybodaeth ynghylch manion (pur ddiarffordd yn aml) eu hanes. Yr oedd y wybodaeth hon, ffrwyth yr hyn a alwai ef yn pottering , bob amser at wasanaeth ymofynwyr, o fewn ac oddi allan i'r Coleg. Yn wir, yr oedd ef wedi hen dyfu megis yn oracl ar holl hanes Cymru; ac ato ef y byddai pawb yn troi am gyngor ac arweiniad yn hyn o beth. Efô, er enghraifft, fu'r dewis anorfod yn olygydd yr History of Carmarthenshire yn 1935 . A phan benderfynodd Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1937 ymgymryd a chyhoeddi'r B YWGRAFFIADUR , efô a wahoddwyd i'w olygu, ac efô, yn 1938 , mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd , a ddug y bwriad i sylw'r genedl. Ystyrid, yn gwbl gyfiawn, y byddai ei enw a'i glod megis yn warant o safon y gwaith.
A heblaw hynny, yr oedd ganddo brofiad helaeth o'r math neilltuol hwn o waith, oblegid bu o 1893 hyd 1912 yn gyfrannwr ysgrifau (cyfrifir fod cryn 120 ohonynt) ar Gymry amlwg , i'r Dictionary of National Biography . Dechreuodd ar ei orchwyl newydd yn ddiymdroi: dewis enwau i'w coffáu ac ysgrifwyr arnynt, ac ysgrifennodd ef ei hunan dros 60 o ysgrifau dan lythrennau cyntaf yr wyddor. Ond torrodd y rhyfel; gohiriwyd y paratoadau; a phan ddaeth hi'n ddiogel ailddechrau arnynt ( 1943 ), teimlai ef na allai mwyach ymdrafferthu â gohebiaeth a phroflenni, a dewisodd ei alw'n ‘ Olygydd Ymgynghorol ’. Eithr nid rhith, o bell ffordd, oedd yr ‘Ymgynghorol’ hwn, oblegid am gryn amser wedyn cyfarfyddai'n wythnosol a'i olynydd, i fwrw golwg dros gynnydd y gwaith ac i roi awgrymiadau gwerthfawr; ac wrth gwrs, ar y llinellau a dorrwyd allan ganddo ef y dygwyd y gwaith ymlaen, hyd eu gallu, gan ei ddau olynydd.
Ond yr oedd ef bellach yn dirywio yn ei iechyd, a bu f. ar 20 Meh. 1947 . Claddwyd ef yn hen fynwent Llandysilio , ar yr ynys gerllaw Porthaethwy . Yr oedd wedi derbyn llawer anrhydedd: urddwyd ef yn farchog yn 1934 ; cafodd raddau D.Litt. ‘er anrhydedd’ gan Brifysgolion Cymru (yn 1922 ) a Manceinion , a dinasfraint dinas Bangor yn 1941 . Yr oedd o gyfansoddiad cadarn ac o wyneb glanwedd; ei safiad wrth annerch cynulleidfa'n urddasol, y llais yn hyglyw, a'r iaith (boed Gymraeg neu Saesneg ) yn gywir a dethol, a'r wisg bob amser yn gymen. Cafodd ei fagu yn anterth oes Victoria , ac odid nad delfrydau'r oes honno a luniodd neu a liwiodd) ei ymarweddiad cyhoeddus — a'i ysgrifennu hefyd — i gryn raddau. Nid ymgeisiodd erioed at fod yn ‘boblogaidd’, ar lwyfan nac ar bapur. Ac am hynny, fe'i hystyrid gan rai yn ddyn deddfol a ‘phell’ — ac yn sicr ddigon, nid dyn oedd ef y mentrai pobl ‘fod yn hŷ’ arno. Ond mewn cylchoedd agosach, yr oedd yn ddigon rhydd, ac nid yn anfynych yn ddireidus. Eto, ei syberwyd a'i ddillynder a oedd ar flaen y darlun.
Ymbriododd yn 1893 â Clementina Miller o Aberdeen , a fuasai gynt yn ddisgybl iddo yn Aberystwyth ; bu hi f. yn 1951 . Gadawsant ferch a mab.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor