LEWIS
,
DAVID
, ‘
Ap Ceredigion
’; (
1870
-
1948
),
offeiriad, bardd, ac emynydd
;
g. yn
Llaethdy
,
Cilcennin
,
sir Aberteifi
,
24 Awst 1870
, yn fab i
David
Lewis
,
ffermwr
, a
Jane
ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn gyntaf mewn ysgol breifat yn
Llannon
,
Ceredigion
, a gedwid gan y
Parchedig
J.
Davies
(yn ddiweddarach
Ficer
Clynnog Fawr
yn
Arfon
) ac yna yng
Ngholeg Dewi Sant
,
Llanbedr Pont Steffan
. Enillodd yno
ysgoloriaeth
mewn
Cymraeg
a gwobr mewn
Groeg
, a chymryd gradd
B.A.
yn y flwyddyn
1896
. Yn Rhag. yr un flwyddyn gwnaed ef yn
ddiacon
gan yr
esgob
Richard
Lewis
o
Lan-daf
a'i drwyddedu i guradiaeth
Ynyshir
yn y
Rhondda Fach
; cafodd urddau
offeiriad
yn
1897
, ac yn yr un flwyddyn aeth yn
gurad
i
Gwm-parc
a
Threorci
. Oddi yno aeth i
Lanbryn-mair
yn
1900
, ac yna i
Fallwyd
yn
1905
. Yn
1906
cafodd
guradiaeth
Llanllechid
, ac yn
1915
penodwyd ef yn
rheithor
Llansadwrn
,
Môn
. Gwnaed ef yn
ddeon gwlad
Tindaethwy
yn
1937
. Bu yn
Llansadwrn
hyd ei f.,
19 Hyd. 1948
, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf. Coffeir ef gan gysegr-lamp yn
eglwys Llansadwrn
.
Ysgrifennai'n gyson i'r cyfnodolion Cymraeg
o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen, ac am flynyddoedd lawer bu'n
olygydd ar golofn farddol
y Llan
, wythnosolyn yr
Eglwys yng Nghymru
. Ceid ei gynhyrchion hefyd mewn cyhoeddiadau eglwysig eraill, megis
Yr Haul
,
y Cyfaill Eglwysig
, a
Perl y Plant
, a hefyd yn
Cymru
a'r
Geninen
. Dewiswyd ef yn un o
olygyddion geiriau
Emynau'r Eglwys
, a gyhoeddwyd yn
1942
, ac yn y llyfr hwnnw ceir nifer o emynau o'i waith ef a'i gyfieithiad, ynghyd â rhai carolau. Nid oes arbenigrwydd mawr yn ei ganu, ond y mae'n swynol a llithrig, ac yn nodweddiadol o'i gyfnod. Gelwid yn fynych am ei wasanaeth fel
beirniad mewn eisteddfodau lleol
; yr oedd yn
bregethwr
melys a derbyniol, ac yn gymeriad hoffus. Priododd
Sarah Jane
Ellis
,
Llanllechid
,
Arfon
, a bu iddynt fab a merch.
Llyfryddiaeth:
-
Hugh J. Williams
,
Hanes Eglwys Llanllechid
, Bangor,
1910
;
-
Y Llan
,
5 Tach. 1948
;
-
Yr Haul
,
Ion. 1949
;
- papurau esgobaeth Llandaf yn Ll.G.C.;
-
gwybodaeth gan ei deulu a chan y Parch.
D. J. Mihangel Williams, Llansadwrn
.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth