Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , WILLIAM TUDOR ( 1865 - 1946 ), gweinidog Undodaidd ac athronydd ; g. 8 Medi 1865 , yn Strata Florida , ger Pontrhydfendigaid , sir Aberteifi . Addysgwyd yn ysgol y pentref, a bu'n athro yno am gyfnod ac yng Ngoginan , sir Aberteifi . Fel myfyriwr yng ngholegau'r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd , paratôdd ar gyfer gweinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd ond yn ddiweddarach daeth yn weinidog ar eglwysi Undodaidd yn Abertawe ( 1899-1906 ), yn Wellington, N.Z. ( 1906-10 ), yn Islington ( 1910-15 ), ac ym Mryste ( 1915-33 ). Yn ystod ei weinidogaeth yn Abertawe astudiodd am dymor yn Jena , lle y dylanwadodd Rudolf Eucken yn ddirfawr arno. Gydag amser cydnabuwyd ef fel esboniwr a chefnogwr blaenaf dysgeidiaeth Eucken , sy'n ceisio gwrthbrofi pob dehongliad materol o hanes a phwysleisio realiti bywyd ysbrydol hollgyffredinol fel yr unig allwedd i ‘anfodlonrwydd dwyfol’ a datblygiad moesol dyn; ac nid yw ei athroniaeth ef ei hun ond ymgais i egluro a datblygu ymhellach y duedd idealyddol o feddwl a geir yn ‘ Actifiaeth Eucken . Cynnwys ei gyhoeddiadau gyfieithiadau o rai o brif weithiau ac amryw esboniadau ar athroniaeth gyffredinol Eucken (gw. rhestr yn Who's Who ); yn eu plith ceir Nature, Thought and Personal Experience ( 1926 ); The Reality of the Idea of God ( 1929 ); Contemporary Thought of Germany (2 cyf. 1930 ). Yr oedd hefyd yn olygydd y Library of Philosophy and Religion a'r Library of Contemporary Thought . Yr oedd yn M.A. (Bristol) a Ph.D. (Jena) . Pr., 1892 , Helen Clarke , Northampton . Bu f. 12 Meh. 1946 a chladdwyd yn Torquay , lle yr ymddeolodd yn 1933 .

Llyfryddiaeth:

  • The Inquirer , Gorff., 1946 ;
  • Who's who? , 1946 ;
  • Adroddiad Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru , Aberystwyth , 1946-47 .

Awdur:

Daniel Davies, M.A., Ph.D., (1893-1961), Aberystwyth