Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , DAVID TAWE ( 1885 - 1949 ), cerddor ; g. yn Rhyd-y-fro , Pontardawe . Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a choleg y Brifysgol , Caerdydd . Bu'n organydd yn eglwysi Presbyteraidd Llanrwst , Caerdydd , Caerfyrddin , a Holloway Road ( Llundain ). Bu'n arwain a beirniadu llawer iawn ar hyd a lled Cymru ac yn Lloegr , ac yn ystod blynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn Athro Llais yn y Guildhall School of Music , Llundain . Ymhlith ei gyfansoddiadau ceir llawer o weithiau corawl a chaneuon (amryw ohonynt yn fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol), ynghyd â rhai cyfansoddiadau offerynnol. Cafodd ei gyfansoddiadau le amlwg fel darnau prawf yn yr eisteddfod genedlaethol o dro i dro. Yr oedd yn llym ei feirniadaeth ar ddiffyg menter y corau Cymreig; ni welai unrhyw arwydd o gynnydd yn eu canu, a dyheai am glywed côr Cymreig a ansawdd Cor Huddersfield . Byddai'r rhestr gyflawn o'i gyfansoddiadau yn rhy hir i'w chynnwys yn yr ysgrif hon.

Dioddefodd gryn lawer o ganlyniadau Rhyfel 1914-18 pan glwyfwyd ef yn ei ben , a bu'n dioddef yn hir hefyd o effeithiau'r nwy gwenwynol . Ychydig cyn ei farw gorffennodd opera bum act, ‘ The Enchantress ’, yn seiliedig ar y thema feiblaidd, ‘ Jesebel ’; sgrifennwyd y libreto gan J. Dyfnallt Owen a chyfieithiwyd hi i'r Gymraeg gan William Evans ( Wil Ifan ) . Sgoriwyd yr opera i gerddorfa lawn. Bu f. yn ei gartref yn Golders Green , Llundain , 3 Mai 1949 , a chafodd ei gladdu yn Rhyd-y-fro .

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.
  • [ Y Ddinas , Meh. 1949 ;
  • Y Darian 8 Medi 1932 ;
  • Y Cymro 6 Awst 1948 .]

Awdur:

John Hughes, Mus.Bac., (1896-1968), Dolgellau