JONES, JOHN SHARE (1873 - 1950), milfeddyg

Enw: John Share Jones
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1950
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 25 Awst 1873, mab Thomas Jones, Plas Kynaston, Cefn-mawr, sir Ddinbych. Addysgwyd ef ym mhrifysgolion Lerpwl a Llundain. Bu iddo ran yn sefydlu adran neu ysgol astudiaethau milfeddygol ym mhrifysgol Lerpwl. Penodwyd ef yn gyfarwyddwr astudiaethau milfeddygol yn y brifysgol honno yn 1917, ac yn athro anatomeg milfeddygol yn 1919. Yr oedd yn gymrawd o'r Coleg Brenhinol Milifeddygol, a bu'n Llywydd am un tymor. Dyfarnwyd iddo fathodyn coffa Steel gan y sefydliad hwnnw yn 1928. Ysgrifennodd nifer o bamffledi ac erthyglau ac enillodd gryn enwogrwydd yn ei faes. Gwasanaethodd ar lawer o bwyllgorau, cenedlaethol a lleol, a bu'n aelod o Gyngor Gwlad Wrecsam am lawer blwyddyn. Ef oedd yr ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol am sedd Croesoswallt yn etholiad 1929. Bu farw 2 Rhagfyr 1950.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.