Fe'i hordeiniwyd yn 1900 yn eglwys Anniynnol Saesneg y Tabernacl , Aberdâr , a chymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus y dref yn y blynyddoedd y bu yno. Bu'n aelod Rhyddfrydol o Gyngor Aberdâr o Ebrill 1904 hyd Ebrill 1907 , a lluniodd A Scheme & Syllabus of Moral and Biblical Instruction ( Aberdâr , 1905 ) ar gyfer ysgolion dyddiol y dref. Yn 1902 priododd Lucy Evans o Bridgnorth a bu iddynt ddau fab a merch. Yn Ionawr 1914 symudodd i fod yn athro Hanes yr Eglwys a Llenyddiaeth Saesneg yng ngholeg Annibynnol Bala-Bangor . Gyda phrifathro 'r coleg, Dr. Thomas Rees , bu a rhan flaenllaw mewn cyhoeddi'r papur pasiffistaidd Y Deyrnas rhwng Hyd. 1916 a Thach. 1919 . Ar f. Thomas Rees yn 1926 daeth yn brifathro ’i goleg a daliodd y swydd nes marw ohono yntau ar 7 Mawrth 1946 . Claddwyd ei weddillion ym mynwent Glanadda , Bangor .
Bu ganddo ar hyd ei oes ddiddordeb mawr mewn addysg a bu'n Gadeirydd Adran Gogledd Cymru o Fudiad Addysg y Gweithwyr o 1926 hyd 1946 . Yn y Brifysgol bu'n Warden Urdd y Graddedigion , 1930-33 , ac yn Is-lywydd coleg y Gogledd , 1944-46 . Yn ei enwad bu'n Gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Saesneg Gogledd Cymru , 1933-4 , ac yn Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg , 1939-40 .
Rhoes fynegiant i'w ddiddordeb mewn pynciau cyhoeddus a'i ryddfrydiaeth ddiwinyddol mewn toreth o erthyglau a llyfrau. Cyfrannodd erthyglau o bwys i'r Celt ; i'r Christian Commonwealth a'r Geiriadur Beiblaidd . Ceir penodau ganddo yn Moral Instruction and Training in Schools (gol. M. E. Sadler ), 1905 ; ar David Rees , Llanelli , yn Welsh Political and Educational Leaders , 1908 ; ac ar Efengyl Matthew yn The Story of the Bible , 1938 .
Bu'n olygydd Yr Efrydydd , Ebr. 1928-Medi 1931 a'r Cofiadur , 1923-46 . Efe oedd golygydd Hanes ac Egwyddorion yr Annibynwyr , 1939 .
Cyhoeddodd hefyd: (1) Y Tadau Pererin; eu Hanes a'u Neges , Merthyr Tydfil , 1920 ; (2) Paul of Tarsus: the Apostle and His Message , York , (d.d. ond 1916 ); (3) Dysgeidiaeth Iesu Grist a gyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr yn 1921 ac a ddiwygiwyd cyn ei ail-gyhoeddi yng Nghaerdydd yn 1937 ; (4) The New Testament in Modern Education , London , 1922 ; (5) (gyda G. A. Edwards ) Diwinyddiaeth yng Nghymru ( Traethodau'r Deyrnas ), 1924 ; (6) Traethodau'r Diwygiad ( Cyfres y Werin , Rhif 14) Wrecsam , 1926 ; (7) Y Bedwaredd Efengyl (2 gyfrol), Abertawe , 1930 , 1931 ; (8) Y Testament Newydd: ei hanes a'i gynnwys , Caerdydd , 1930 ; (9) Sgwrs: Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor , ( 1940 ).
Y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones, D.Phil., (1921-98), Bangor