JONES
,
THOMAS LLECHID
(
1867
-
1946
),
offeiriad, llenor, a llyfryddwr
;
g.
4 Rhag. 1867
, yn y
Tyddyn Uchaf
,
Llanllechid
,
sir Gaernarfon
, yn fab i
Hugh
Jones
a
Catherine
ei wraig. Cafodd ei addysg yng
ngholeg y Brifysgol
,
Bangor
, a
choleg Dewi Sant
,
Llanbedr-pont-Steffan
. Wedi iddo raddio (
B.A.
, yn
1896
) yng
ngholeg Dewi Sant
ordeiniwyd ef (
1897
) i guradiaeth
eglwys S.David
,
Blaenau Ffestiniog
; daeth yn
offeiriad
yn
1899
. Yn
1902
daeth yn
gurad
Llanllyfni
,
sir Gaernarfon
, yn
1906
cafodd
ficeriaeth
Ysbyty Ifan
, ac, yn
1915
,
ficeriaeth
Llysfaen
; cafodd ei wneuthur yn
rheithor
Llangynhafal
(gyda
Llangwyfan
) yn
1934
. Pr.
9 Ion. 1917
,
Elizabeth Dolben
Jones
. Ymneilltuodd yn
1944
a mynd i fyw ym
Mae Colwyn
lle y bu f.
12 Awst 1946
.
Cyfrannodd
Llechid
Jones
i gylchgronau'r
Eglwys yng Nghymru
—
Yr Haul
,
Y Llan
, etc. Yr oedd yn un o aelodau mwyaf selog
Cymdeithas Lyfryddol Cymru
a daeth yn un o'r
Is-Lywyddion
. Ysgrifennodd lawer ar faterion llenyddol a llyfryddol i Gylchgrawn y gymdeithas; gw. enghreifftiau yng Nghyfrolau iii, iv, v a vi, a noder, yn arbennig, ei bum erthygl a deitlir yn ‘
Studies in Welsh Book Land
’. Yr oedd yn
llyfryddwr
gofalus a chynullodd lyfrgell breifat dda; aeth enghreifftiau o'i lyfrau a'i lawysgrifau i
Lyfrgell U.C.N.W.
,
Bangor
, a rhai i'r
Llyfrgell Genedlaethol
. Efallai mai ei waith pwysicaf ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol oedd traethawd (
1933
) ar
hanes y Pabyddion yng Nghymru yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg
.
Llyfryddiaeth:
-
Crockford's Clerical Directory
, 1858
ff
,
1941
;
-
North Wales Weekly News
,
15 Awst 1946
;
-
Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol
; vi. 215-6.
-
Who's who in Wales
,
1937
.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth