JONES, THOMAS JESSE (1873 - 1950) Addysgwr, ystadegydd, a sosiolegydd

Enw: Thomas Jesse Jones
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1950
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Addysgwr, ystadegydd, a sosiolegydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 4 Awst 1873 yn Llanfachraeth, sir Fôn. Yn 11 oed ymfudodd i U.D.A. gyda'i fam weddw, brawd, a dwy chwaer, gan ymsefydlu yn Ohio.

Bu ym mhrifysgolion Washington a Lee (Virginia) a Columbia (Efrog Newydd), gan raddio yn M.A., Ph.D., ac yn B.D. (Union Theological Seminary). Bu am saith mlynedd yn yr Sefydliad Hampton, Virginia, un o'r colegau cyntaf i bobl Ddu; yno y deffrowyd ynddo ddiddordeb arbennig mewn addysg i bobl Ddu. Bu'n gwasanaethu Swyddfa Cyfrifiad yr Unol Daleithiau a thalu sylw arbennig yno i ystadegau ynglŷn â phobl Ddu.

Yn 1913 dechreuodd waith ymchwil ar ran Swyddfa Addysg yr Unol Daleithiau a Chronfa Phelps-Stokes; ym mhen amser cyhoeddodd y Swyddfa Addysg ddwy gyfrol o dan yr enw Negro Education in the United States; yn ystod Rhyfel 1914-18 bu'n gwasanaethu yn adran o Gymdeithas Gristnogol y Dynion Ifanc a oedd yn llafurio ymhlith milwyr Du yn Ewrop; bu iddo hefyd ran bwysig yn ffurfio'r 'Comisiwn dros Gydweithredu Rhyng-hiliol' ddiwedd y rhyfel hwnnw. Bu'n arwain dau gomisiwn a aeth i Affrica ar ran y Cronfa Phelps-Stokes ar gais cymdeithasau cenhadol ym Mhrydain ac America a chyda chydweithrediad Swyddfa'r Trefedigaethau, Llundain.

Pan gyhoeddwyd adroddiad y comisiwn ar addysg yng ngorllewin, de, a chanolbarth Affrica yn 1922, gofynnodd Swyddfa'r Trefedigaethau (Llundain) iddo wneuthur astudiaeth gyffelyb yn Nwyrain Affrica; cafwyd adroddiad ar Kenya, Uganda, Tanganyika, De a Gogledd Rhodesia, ac Ethiopia (fel y'u gelwid ar y pryd) yn 1925. Canlyniad cyhoeddi'r ddau adroddiad ydoedd sefydlu Adran Addysg y Trefedigaethau. Anrhydeddwyd Dr. Jesse Jones yn 1925 gan lywodraeth Prydain drwy ei wahodd i ginio arbennig yn Lancaster House, Llundain. Parhaodd ei gysylltiad â Chronfa Phelps-Stokes am 33 mlynedd.

Bu'n gwneuthur gwaith ymchwil i gyflwr addysg yn Liberia (Affrica) hefyd; canlyniad hyn oedd agor Sefydliad Booker Washington yn Kakata. Bu hefyd yn gwneuthur ymchwil yng ngwlad Groeg a rhai o wledydd eraill y Dwyrain Canol ar ran Sefydliad y Dwyrain Agos. Yn 1932 bu'n darlithio o dan nawdd Sefydliad Carnegie ym mhrifysgolion De Affrica; yn 1937 efe oedd pennaeth comisiwn a fu'n astudio'r bobl Frodorol Diné (Navajo) yn America. Cyhoeddodd Four Essentials of Education, 1926, a Essentials of Civilisation.

Bu farw yn ei gartref yn ninas Efrog Newydd yn Ionawr 1950.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.