JONES
,
ELIAS HENRY
(
1883
-
1942
),
gweinyddwr ac awdur
;
g. yn
Aberystwyth
21 Medi 1883
, mab hynaf
Syr
Henry
Jones
(q.v.)
ac
Annie
Walker
. Addysgwyd ef yn
ysgol uwchradd Glasgow
,
Prifysgol Glasgow
,
Prifysgol Grenoble
a
choleg Balliol
,
Rhydychen
. Wedi cael ei
alw i'r Bar
, llwyddodd yn yr arholiadau ar gyfer gradd weinyddol
Gwasanaeth Gwladol yr India
, ac ym
1905
aeth i
Bwrma
i wasanaethu. Ymddeolodd ym
1922
, ac yntau ar y pryd yn dal swydd
Comisiynydd Cyllidol
; daeth i fyw i
Fangor
,
Arfon
, ac am y deng mlynedd nesaf bu ganddo ddiddordeb effro yn y
mudiad heddwch rhyngwladol
ac mewn addysg yng
Nghymru
. O
1927 hyd 1933
ef ydoedd
golygydd
The Welsh Outlook
. Ym
1933
penodwyd ef yn
gofrestrydd
coleg y Brifysgol
,
Bangor
, swydd a ddaliodd hyd ei f.
22 Rhag. 1942
.
Adwaenir
E. H.
Jones
yn orau fel
awdur
The Road to Endor
, clasur o hanes dianc trwy ystryw yn y
Rhyfel Byd Cyntaf
. Ymunodd
Jones
â
Byddin yr India
a dyrchafwyd ef yn
swyddog
yn union cyn iddo gael ei gymryd yn garcharor gan y
Twrciaid
wedi cwymp
Kut-el-Amara
. Yna gorfu iddi ymuno mewn ymdaith o saith can milltir i
Yozgad
— ymdaith a fu'n angau i un o bob saith o'r carcharorion. Wedi bod yn
garcharor
am dair blynedd, rhyddhawyd ef a chydymaith iddo, ill dau'n ffugio bod yn wallgof, dim ond pythefnos cyn y
Cadoediad
. Printiwyd y llyfr ddwy ar bymtheg o weithiau, ac yna bu iddo dri argraffiad.
Priododd
E. H.
Jones
ym
1913
Mair Olwen
merch ieuengaf y
Dr.
Griffith
Evans
,
Brynkynallt
,
Bangor
(
Bywg.
, 220)
.
Llyfryddiaeth:
-
Who's who in Wales
, 3ydd argr.;
-
gwybodaeth gan
Mrs. Jean Ware
, merch
E. H. Jones
.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor