JENKINS, DANIEL (1856 - 1946), Llan-y-crwys, ysgolfeistr a charwr llên a cherddoriaeth Cymru

Enw: Daniel Jenkins
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1946
Priod: Elizabeth Jenkins (née Williams)
Rhiant: Catherine Jenkins
Rhiant: Griffith Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a charwr llên a cherddoriaeth Cymru
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth
Awdur: Ivor Gwynfil Rees

Ganwyd 7 Tachwedd 1856 yn fab i Griffith a Catherine Jenkins, Pentrefelin, Nantcwnlle, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn ysgol Bwlch-y-llan, Academi Holt a Choleg Normal Bangor. Dewiswyd ef yn brifathro ysgol Cilcennin yn 1877, ysgol Llanfair Clydogau yn 1878, ac ysgol Llan-y-crwys, Sir Gaerfyrddin, yn 1897, a bu yno nes ymddeol o'r swydd yn 1920. Yn 1898 etholwyd ef ar gyngor sir Aberteifi, a bu'n cynrychioli Nantcwnlle am chwe blynedd. Efe oedd ysgrifennydd cyntaf Clwb Teirw Dyffryn Aeron, 1898, bu'n gadeirydd Cymdeithas Gwenynwyr sir Aberteifi, ac yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cob Cymreig o 1903, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, etc. Adnabyddid ef trwy Gymru gyfan fel ' Archdderwydd y Maes.'.

Hannai o deulu enwog o feirdd gwlad. Gyda David Lewis golygodd lyfr o gerddi un ohonynt, Cerddi Cerngoch, 1904. Cyhoeddodd hefyd Cerddi Llanycrwys, 1934 - casgliad o gerddi a ysgrifennwyd o flwyddyn i flwyddyn gan feirdd enwog, gogyfer â dathlu Dydd Gwyl Dewi yn ysgol Llan-y-crwys yn arbennig. Priododd, 1886, Elizabeth, merch William ac Ann Williams, Llanfair Clydogau. Bu farw ym Mhentrefelin, y ffermdy lle y ganwyd ef, 18 Tachwedd 1946.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.