JEHU, THOMAS JOHN (1871 - 1943), daearegwr

Enw: Thomas John Jehu
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1943
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Frederick John North

Ganwyd ym Mrynafon, Llanfair-Caereinion, Sir Drefaldwyn, 19 Chwefror 1871. Cafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Croesoswallt ac ym mhrifysgolion Caeredin (M.B., C.M., 1893, B.Sc., 1894) a Chaergrawnt (1897-9), a thrachefn yng Nghaeredin (M.D., 1902).

Ei waith ymchwil pwysig cyntaf oedd mesur dyfnder llynnoedd Eryri a'r ardaloedd cylchynol; cyhoeddwyd y gwaith hwn gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin yn 1902. Dewiswyd ef yn ddarlithydd mewn daeareg ym mhrifysgol S. Andrews, 1903, ac, yn 1914, yn Athro Brenhinol daeareg a mwynyddiaeth ym mhrifysgol Caeredin; cymerodd ran amlwg ym mywyd academig a gwyddonol y ddinas honno.

Rhoes sylw yn gynnar yn ei oes i'r haenau yng Nghymru a adawsid yn Oes yr Ia ac wedi iddo ymsefydlu yng Nghaeredin gwnaeth gyfraniadau pwysig i astudiaeth daeareg Ysgotland, yn arbennig ynglŷn â chreigiau hynaf yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd. Yr oedd yn aelod o'r comisiwn brenhinol ar 'Coast Erosion' (1906), bu'n llywydd Cymdeithas Daeareg Caeredin (1917-18), yn gymrawd ac is-lywydd (1929-32) Cymdeithas Frenhinol Caeredin. Bu farw yng Nghaeredin 18 Gorffennaf 1943.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.