IRBY, GEORGE FLORANCE, 6ed barwn BOSTON (1860 - 1941), tirfeddiannwr a gwyddonydd

Enw: George Florance Irby
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1941
Rhiant: Augusta Caroline Irby
Rhiant: Florance George Irby
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr a gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 6 Medi 1860, mab hynaf Florance George Irby, 5ed barwn Boston, ac Augusta Caroline, merch y 3ydd Barwn de Saumarez. Addysgwyd ef yn Eton a choleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn hanes ddiweddar yn 1882. O 1885 hyd 1886 yr oedd yn ' lord-in-waiting ' i'r Frenhines Victoria. Perchenogai stadau yn swyddi Lincoln a Buckingham ac hefyd yn Lligwy, Môn. Trwy gydol ei fywyd treuliodd lawer o'i oriau hamdden i astudio rhai canghennau o'r gwyddorau anianol, yn arbennig seryddiaeth, botaneg ac entomoleg, ac yr oedd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ac o Gymdeithas Ddaeareg Llundain. Efo oedd llywydd Cymdeithas Hynafiaethol Môn o adeg ei sefydlu yn 1912 hyd o fewn ychydig i'w farw, ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n gefn i bob gweithgaredd archaeolegol ym Môn a'r siroedd cyfagos - yn Lligwy ei hun pan archwiliwyd olion hen bentref Prydeinig yno o'r cyfnod Rhufeinig, ac hefyd yng Nghaer Saint (Segontium) a Chaerhun (Conovium). Yn 1936 cyflwynwyd iddo radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei wasanaeth i ddiwylliant cenedlaethol. Bu farw 16 Medi 1941.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.