Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

HUGHES, GRIFFITH WILLIAM (1861 - 1941), cyfrifydd a cherddor

Enw: Griffith William Hughes
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1941
Rhiant: Ann Hughes
Rhiant: Griffith Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfrifydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yng Nghefnmawr 22 Chwefror 1861. Mab i Griffith ac Ann Hughes. Wedi gorffen ei addysg yn yr ysgol elfennol, rhoddodd y fonesig Williams Wynn flwyddyn o addysg iddo yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Wedi gorffen ei gwrs addysg, penodwyd ef yn gyfrifydd yn swyddfa cwmni glo Wynnstay. Yn fachgen cafodd ei addysg gerddorol yn nosbarth J. O. Jones, Pen-y-cae, ac wedi hynny yn nosbarth Edward Hughes. Yn 1889 sefydlwyd cymdeithas gorawl, Cefn-mawr, a chôr meibion, a phenodwyd ef yn arweinydd y ddau gôr, a pherfformiwyd amryw o gyfanweithiau gan y gymdeithas gorawl. Bu am gyfnod yn arweinydd y canu yng nghapel mawr (M.C.) Rhos. Gwnaeth astudiaeth o gyfundrefn y Tonic Solffa, ac enillodd y radd o G. & L.T.S.C. y coleg, ac yn 1900 etholwyd ef yn aelod o gyngor coleg y Tonic Solffa. Yn 1911 penodwyd ef yn arweinydd canu cyflogedig eglwys M.C. Princes Road, Lerpwl, lle y llafuriodd hyd ei ymddiswyddiad yn 1926. Symudodd o Lerpwl i fyw i Brestatyn. Yr oedd yn un o olygyddion Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, 1929. Gwasanaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu cymeradwy trwy Gymru. Cyfansoddodd lawer o anthemau a thonau a fu yn boblogaidd. Bu farw 27 Medi 1941, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Prestatyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.