Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HOOSON , ISAAC DANIEL ( 1880 - 1948 ), cyfreithiwr a bardd ; g. 2 Mai 1880 , yn Rhosllannerchrugog , mab i Edward a Harriet Hooson . Yr oedd teulu ei dad yn hanfod yn wreiddiol o Gernyw . Addysgwyd I. D. Hooson yn ysgol fwrdd y Rhos ac ysgol ramadeg Rhiwabon . Yn 1897 aeth i wasanaethu'r Mri Morris & Jones yn Lerpwl , ac yno y bu hyd 1904 , pan fu farw ei dad. Yna rhwymwyd ef gyda chyfreithiwr yn Wrecsam , ac arhosodd yno hyd ddechrau'r Rhyfel Mawr cyntaf . Yn ystod y rhyfel hwnnw bu'n gwasanaethu yn y llynges . Wedi ei ryddhau yn 1919 ymsefydlodd fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam . O 1920 hyd 1943 daliodd y swydd o ‘ Official Receiver in Bankruptcy ’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru . Bu'n noddwr i Urdd Gobaith Cymru ac yn aelod defnyddiol iawn o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a'i bwyllgorau. Rhwng 1900 a 1914 ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth, a gwelir ei gerddi yma a thraw yn Cymru, (O.M.E.) Yna rhoes y gorau i farddoni am flynyddoedd a phan ailddechreuodd cydnabuwyd ef ar unwaith fel un o brif feirdd Cymru . Telynegion a baledi oedd ei hoff ffurfiau, ac y mae sicrwydd ergyd a swyn gweledigaeth a mynegiant ym mhopeth a ganodd.

Cyhoeddodd Y Fantell Fraith ( 1934 ), cyfaddasiad o ‘ Pied Piper of Hamelin ’, Cerddi a Baledi ( 1936 ), Y Gwin a Cherddi Eraill 1948 ). Bu f. 18 Hyd. 1948 .

Llyfryddiaeth:

  • Cafwyd y manylion uchod mewn llythyr gan Mr. H. Ellis Hughes, Coedpoeth .

Awdur:

Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor / Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

HOOSON , ISAAC DANIEL ( Bywg. 2, 21) Cafodd radd M.A. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1948 . Gw. W. R. Jones , Bywyd a Gwaith I. D. Hooson ( 1954 ).

Awdur:

Arwyn Lloyd Hughes, Llandaf