GREEN, CHARLES ALFRED HOWELL (1864 - 1944), ail archesgob Cymru

Enw: Charles Alfred Howell Green
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1944
Priod: Katherine Mary Green (née Lewis)
Rhiant: Elizabeth Green
Rhiant: A.J.M. Green
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ail archesgob Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Mab hynaf A. J. M. Green, offeiriad, ac Elizabeth ei wraig; ganwyd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, 19 Awst 1864. Ar ochr ei fam yr oedd yn or-ŵyr i Peter Williams. Cafodd ei addysg yn ysgol Charterhouse a choleg Keble, Rhydychen; graddiodd yn B.A. yn 1887 yn y clasuron yn yr ail ddosbarth, ac yn M.A. yn 1892. Yn ei dro, bu'n llyfrgellydd ac yn llywydd yr ' Oxford Union Society '. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1888 ac yn offeiriad yn 1889, a bu'n gurad ac yna'n ficer Aberdâr o 1893 hyd ei benodi'n ganon yn eglwys gadeiriol Llandâf ac yn archddiacon Mynwy yn 1914. Pan ffurfiwyd esgobaeth newydd Mynwy yn 1921, ef oedd yr esgob cyntaf; penodwyd ef yn esgob Bangor yn 1928. Wedi i A. G. Edwards ymddeol, etholwyd ef (1934) yn archesgob Cymru, a daliodd y swydd honno hyd fis cyn ei farw, 7 Mai 1944; claddwyd ef yn Llandâf. Enillodd raddau B.D. (1907), D.D. (1911), a D.C.L. (1938), ym Mhrifysgol Rhydychen ac yr oedd yn gymrawd anrhydeddus o goleg Keble. Ysgrifennodd Notes on Churches in the Diocese of Llandaff (1907), a The Constitution of the Church in Wales (1937). Priododd yn 1899, Katherine Mary, merch William Thomas Lewis, yr Arglwydd Merthyr cyntaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.