GREEN
,
FRANCIS
(
1854
-
1942
),
hynafiaethydd
;
g. yng
Nghaerfyrddin
15 Rhag. 1854
, yn fab hynaf i
Francis
Green
,
Oaklands
, a'i briod
Elizabeth
Harries
o
Dre-facwn
, gerllaw
Tre-fin
, ac addysgwyd mewn
ysgol Forafaidd
ym
Mhen-dain
, yn
ysgol y Siapter
yn
Nhyddewi
, ac yn
ysgol Amwythig
. Wedi astudio'r gyfraith yn
Llundain
a gweithio yn swyddfa'i dad, ymfudodd yn
1878
i
Ganada
, lle y bu'n
ffermio
nes dychwelyd i
Lundain
yn
1892
i weithio yn swyddfa'r
Financial Times
. Ymneilltuodd i
Dyddewi
yn
1907
, a bwriodd weddill ei oes faith mewn
ymchwiliadau hynafiaethol
, gan ennill bri mawr ynddynt. Golygodd y
West Wales Historical Records
; lluniodd galendrau o'r
Coleman Deeds
(
1921
),
Crosswood Deeds
(
1927
) a'r
Hawarden Deeds
(
1931
) yn y
Llyfrgell Genedlaethol
, ond erys ei galendr o ddogfennau
Peniarth
heb ei gyhoeddi; a chyfrannodd bapurau pwysig ar hanes
sir Benfro
i'r
Cymmrodor
ac i
Drafodion
y
Cymmrodorion
. Y mae llawer o'i lawysgrifau yn
llyfrgell sir Benfro
yn
Hwlffordd
a chopïau yn y
Llyfrgell Genedlaethol
. Bu f.
6 Awst 1942
, yn
Nhyddewi
.
Llyfryddiaeth:
-
Gwybodaeth gan ei nith,
Miss Green
o Dyddewi, a chan lyfrgellydd sir Benfro yn Hwlffordd;
- adnabyddiaeth bersonol.
Awdur:
John James Evans, M.A., (1894-1965), Tyddewi