GLENN, THOMAS ALLEN (1864 - 1948), milwr, hanesydd, achyddwr, a hynafiaethydd

Enw: Thomas Allen Glenn
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1948
Priod: Meenie Mary Glenn (née Tothill)
Rhiant: Sarah Catherine Glenn
Rhiant: Edward Glenn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr, hanesydd, achyddwr, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 8 Ionawr 1864, yn Pennsylvania, mab Edward a Sarah Catherine Glenn. (Serch ei eni yn yr America yr oedd yn ddinesydd Prydeinig).

Bu'n gwasanaethu ym myddinoedd America a Phrydain. Erbyn 1903 yr oedd yn Lieutenant-Colonel ym myddin America, eithr ymddiswyddodd yn 1905 a dyfod i Gymru i fyw. Bu'n swyddog yn Rhyfel Mawr 1914-18; bu hefyd yn swyddog yn yr ' Home Guard ' yn Rhyfel 1939-45.

Fel awdur y mae iddo ddau gyfnod - yn America ac ym Mhrydain. Yn ystod y ddau gyfnod yr oedd ei weithiau ar hen deuluoedd yn bwysig. Wedi iddo ddyfod i fyw yng Nghymru (ym Mhrestatyn, Meliden, Rhyl, ac, yn ddiweddaf oll, yn Abergele) rhoddodd lawer o sylw i hanes lleol a hynafiaethau; yr oedd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ac ysgrifennai o bryd i bryd i Arch. Camb. Yr oedd yn achyddwr gofalus a chan fod ganddo hefyd dalent arlunydd y mae ei waith yn y maes arbennig hwn yn bur werthfawr; yr oedd hefyd yn chwilotwr dyfal ac yn gopïwr gofalus.

Priododd, yn 1904, Meenie Mary, merch Robert H. a Jessie Tothill, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn Abergele, 30 Ionawr 1948; bu ei weddw farw ar 4 Medi 1949.

Heblaw erthyglau yn Archæologia Cambrensis a chyhoeddiadau cyffelyb (rhai ohonynt yn cael eu cyhoeddi yn America), yr oedd Glenn yn awdur llu o lyfrau a llyfrynnau. Yn eu plith y mae Merion in the Welsh Tract … (Pennsylvania) (Norristown, 1896); Some colonial mansions and those who lived in them (Philadelphia; 1st series 1899, 2nd series 1900); Welsh Founders of Pennsylvania, 2 vols., (Oxford, 1911); Newmarket Notes (Prestatyn Hundred, Flintshire), Parts 1 and 2 (Prestatyn 1911, 1912); Northern Flintshire, historical, genealogical and archaeological, Vol. 1, Parts 1-3, (Horncastle, 1913); (gydag Arglwydd Mostyn), History of the Family of Mostyn, (1926); The Family of Griffith of Garn and Plasnewydd in the County of Denbigh, (London, 1934).

Y mae'r rhan fwyaf o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.