EVANS, DAVID OWEN (1876 - 1945), bargyfreithiwr, diwydiannwr, a gwleidydd

Enw: David Owen Evans
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1945
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr, diwydiannwr, a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Maelgwyn Davies

Ganwyd 5 Chwefror 1876 yn Penbryn, Sir Aberteifi, mab i William Evans, amaethwr. Addysgwyd ef yng ngholeg Llanymddyfri a'r Imperial College of Science, Llundain. Yn 1897 ymunodd â'r gwasanaeth gwladol, a gosodwyd ef yn adran y trethi. Yn 1899 priododd Kate Morgan. Tra'r oedd yn y gwasanaeth gwladol astudiodd y gyfraith a galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn yn 1909. Gweithredodd fel bargyfreithiwr, a chyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl Law of Old Age Pensions: Finance Act, 1909-10. Ar gymhelliad Arglwydd Melchett (Syr Alfred Mond y pryd hwnnw) ymunodd â'r Mond Nickel Company, Ltd., yn 1916, a daeth yn ddiweddarach yn rheolwr y cwmni hwn ac yn is-lywydd yr International Nickel Co. of Canada Ltd. Yn 1932 etholwyd ef yn aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros sir Aberteifi, a chynrychiolodd yr etholaeth hon hyd 1945. Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn sefydliadau Cymreig, a bu'n aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yr oedd yn gerddor brwd ac yn eisteddfodwr pybyr; ef oedd llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol pan fabwysiadwyd cyfansoddiad newydd y cyngor. Bu'n drysorydd coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yn noddwr hael i'r sefydliad hwnnw. Gwnaed ef yn farchog yn y rhestr anrhydeddau a gyhoeddwyd wythnos cyn ei farwolaeth ar 11 Mehefin 1945.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.