O 1911 hyd 1914 bu Edwards yn golygu ac yn cyhoeddi Wales: A National Magazine. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion, yn enwedig i'r British Weekly; yn niwedd ei oes ysgrifennai bron bob wythnos i'r Empire News. Ysgrifennodd (a) From Village Green to Downing Street. Life of D. Lloyd George … (London, 1908) — gyda Spencer Leigh Hughes, (b) Life of David Lloyd George; with a short history of the Welsh People, 4 cyfrol (London, 1913-19), (c) David Lloyd George, the man and the statesman, 2 cyfrol (New York, 1929, ac arg. arall yn Llundain, 1930).
Pr. 20 Ebrill 1933, Doris, merch Syr Samuel Faire, Glenfield, Frith Park, Leicester. Ym mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn byw yn Hindhead, Surrey, gan roddi llawer o'i amser yno i gymdeithasau megis Cyngor yr Eglwysi Rhyddion a Chymdeithas Trethdalwyr a golygu gwaith mawr newydd (nas cyhoeddwyd) ar hanes Cymru. Bu f. 14 Meh. 1945 yn Hindhead.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth