DAVIES, WILLIAM (1874 - 1949), hanesydd lleol

Enw: William Davies
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1949
Priod: Mary Matilda Davies (née Roberts)
Plentyn: Mairwen Davies
Plentyn: Gwilym Prys Prys-Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 6 Mehefin 1874, ym Mhlas Corniog, Llanegryn, Sir Feirionnydd. Cafodd afiechyd yn gynnar yn ei oes a phan oedd tua 13 oed cyfyngwyd ef i'w wely am tua 10 mlynedd. Pan ddaeth yn well prentisiwyd ef yn deiliwr yn Abermo a Llanegryn. Yn 1907 fe'i penodwyd yn glerc cyngor plwyf Llanegryn ac yn dreth-gasglydd. Yn 1921 aeth i Groesoswallt i gadw gwesty ond dychwelodd i Lanegryn yn 1928. Bu farw 19 Mehefin 1949.

Ysgrifennodd lawer o ysgrifau i Cymru (O.M.E.) , Yr Haul , Lleufer , Y Ford Gron , Heddiw , Y Dysgedydd, a Bathafarn . Rhoes help hefyd i Bodfan Anwyl gyda phumed argraffiad geiriadur Spurrell. Eithr ei waith pennaf oedd Hanes Plwyf Llanegryn, a gyhoeddwyd yn 1948.

Priododd Mary Matilda Roberts (1888-1974), a chawsant un ferch, Mairwen (1922-2004), ac un mab, Gwilym Prys Davies (1923-2017).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.