DAVIES, RICHARD ('Isgarn '; 1887 - 1947), bugail a bardd

Enw: Richard Davies
Ffugenw: Isgarn
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1947
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bugail a bardd
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn y Trawscoed, plwyf Caron-is-clawdd, Ceredigion, 29 Awst 1887, ac yn y fro fynyddig ac anghysbell honno o dan y Garn Gron ym Mlaencaron y treuliodd ei oes; yno hefyd y bu farw 8 Mehefin 1947. Claddwyd ef yn ôl ei ddymuniad ym mynwent Ystrad Fflur. Yn ei ewyllys gadawodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lu o lawysgrifau gwreiddiol ei farddoniaeth, a hefyd swm o arian ar yr amod bod y Llyfrgell yn cyhoeddi detholiad o gynnyrch ei awen. Gwnaethpwyd hyn yn 1949 - gweler Caniadau Isgarn, 1949, gyda rhagymadrodd gan T. H. Parry-Williams a gwerthfawrogiad gan S. M. Powell. Yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hanes lleol a hynafiaethau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.