Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

DAVIES, WILLIAM LEWIS (1896 - 1941), gwyddonydd ac arbenigwr ar astudio llaeth

Enw: William Lewis Davies
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1941
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd ac arbenigwr ar astudio llaeth
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Margaret Beatrice Davies

Ganwyd 23 Chwefror 1896, yn fab i David a Jane Davies. Amaethwr oedd ei dad ac yn byw yn Cwmlogin, Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Bu yn ysgol ganolraddol Llandeilo Fawr cyn ymuno, yn 1914, â'r Royal Horse Artillery, a brwydro wedi hynny yn Ffrainc. Graddiodd yn B.Sc. (Cymru), gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Cemeg, o goleg Aberystwyth, ac aeth oddiyno i goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle y graddiodd yn Ph.D. Yn 1925 cafodd swydd ym Mhrifysgol Reading; dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd swydd biogemegydd yn y ' National Institute for research in Dairying ', ac yn 1939 etholwyd ef yn ' Director of Dairy Research ' i Lywodraeth yr India. Yn gynnar wedi iddo gyrraedd yr India llwyddodd i gael sefydlu ' The Imperial Dairy Research Institute ' a agorwyd ar Ddydd Gwyl Dewi 1941, eithr bu farw yn Delhi Newydd ar 15 Mai 1941, a chladdwyd yng Nghladdfa Nicholson, Delhi Newydd. Yr oedd yn briod a Miss Eleanor Unwin o Gaergrawnt.

Cyfrifid Davies yn un o arbenigwyr mwyaf ei oes ar laeth a phopeth yn gysylltiol ag ef. Cydnabuwyd ei waith gan Brifysgol Cymru yn 1935 pan gyflwynwyd iddo radd D.Sc. er anrhydedd. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf o'i waith pwysicaf, sef Chemistry of Milk yn 1936; cyhoeddodd hefyd lawer iawn o erthyglau yn cynnwys ffrwyth ei wahanol ymchwiliadau - am rai manylion gweler y marw-goffa a nodir isod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.