DAVIES, ROBERT HUMPHREY ('Gomerian '; 1856 - 1947), gohebydd papurau Cymraeg a Saesneg yn U.D.A.

Enw: Robert Humphrey Davies
Ffugenw: Gomerian
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1947
Priod: Annie Davies (née Evans)
Rhiant: Janet Davies (née Hughes)
Rhiant: Humphrey R. Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gohebydd papurau Cymraeg a Saesneg yn U.D.A.
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn 1856 yn Pen-y-gogwydd, gerllaw Dinorwig, Sir Gaernarfon, mab Humphrey R. Davies a Janet (Hughes, gynt o Lanberis). Fe'i cymerwyd i America yn blentyn gan ei rieni a bu'n byw yn Dam, ger Slatington, Pa., nes oedd yn 16 oed pryd y symudodd i Pittsburgh, Pa., lle y prentisiwyd ef yn gysodydd yn swyddfa Y Wasg. Ac eithrio 15 mis yn Efrog Newydd ac Utica, yn Pittsburgh y treuliodd weddill ei oes hir. Priododd 2 Chwefror 1887, Annie Evans, Pittsburgh Pa.

Bu i ' Gomerian ' gysylltiad maith a phapurau Cymraeg a Saesneg U.D.A. a daeth yn ysgrifennydd rhwydd a llithrig yn y ddwy iaith. Ysgrifennodd lawer i'r Drych a phan ddechreuwyd cyhoeddi y Druid efe oedd un o'i brif ohebwyr. Yr oedd yn egnïol yng nghylchoedd Cymreig Pittsburgh; bu am bedair blynedd ar ddeg yn ysgrifennydd Cymdeithas Gŵyl Dewi ac yn llywydd iddi ddwywaith. Bu a wnelai ef hefyd lawer â threfnu eisteddfodau a daeth i Gymru i ofyn i David Lloyd George ymweled ag eisteddfod gyd-genedlaethol y Cymry yn America; ar awgrym Lloyd George cychwynnodd Orsedd Americanaidd a dewiswyd ef ei hun yn gofnodydd yr Orsedd honno; efe, e.e., oedd cofnodydd yr Orsedd a gynhaliwyd yn San Francisco yn 1915. Efe hefyd a fu'n gyfrifol am gyhoeddi y Royal Blue Book sydd yn cynnwys hanes a chynhyrchion yr eisteddfod gyd-genedlaethol a gynhaliwyd yn Pittsburgh yn 1913. Bu farw yn Pittsburgh yn 1947 yn 91 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.