CHAPPELL, EDGAR LEYSHON (1879 - 1949), arbenigwr mewn cwestiynau cymdeithasol, arloesydd ad-drefnu pentrefi a threfi, ac awdur

Enw: Edgar Leyshon Chappell
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1949
Priod: Alice Chappell (née Thomas)
Rhiant: Ellen Chappell (née Watkins)
Rhiant: Alfred Chappell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arbenigwr mewn cwestiynau cymdeithasol, arloesydd ad-drefnu pentrefi a threfi, ac awdur
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 8 Ebrill 1879, yn Ystalyfera, mab Alfred Chappell ac Ellen Watkins. Cafodd ei addysg yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a bu am gyfnod yn brifathro ysgol Rhiw-fawr, Pontardawe. Cyhoeddwyd pamffledyn o'i waith - Gwalia's Homes - yn Ystalyfera yn 1911. Yn 1912 dechreuodd gynorthwyo'r Athro H. Stanley Jevons mewn gwaith ymchwil i faterion economaidd (gan mwyaf) - gwaith a olygai drafaelio a darlithio yn ne Cymru, ac ysgrifennu pamffledi ac erthyglau i'r wasg ar bynciau megis datblygiad pentrefi a threfi, gerddi, etc. Yn 1917 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd adran Gymreig comisiwn y Cabinet Rhyfel ar yr anesmwythder yn y byd diwydiannol; y flwyddyn ddilynol cafodd ei ddewis gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth i chwilio i mewn i gwestiwn cyflogau a thelerau gwaith gweithwyr ar y tir yn Ne Cymru. O 1918 hyd 1921 yr oedd yn arolygwr yn adran tai o dan y Weinyddiaeth Iechyd; yn 1921 fe'i gwnaethpwyd yn ysgrifennydd ymchwil daleithiol arbennig yn Ne Cymru a wneid gan yr un Weinyddiaeth.

Wedi iddo adael y Weinyddiaeth Iechyd bu Chappell yn ffurfio ac yn arolygu cwmnïau ynglyn â datblygu tir, etc., yn Llundain a Chaerdydd - gweler rhestr o'r cwmnïau hyn yn Who's Who in Wales, 1937. Efe oedd un o sylfaenwyr (ac, am rai blynyddoedd, ysgrifennydd) y ' Welsh Housing and Development Association '; golygodd gyfrolau 1916, 1917, a 1918 The Welsh Housing and Development Year Book. Yn ddiweddarach bu'n ddiwyd yn ei waith ar wahanol gynghorau - cyngor sir Morgannwg yn eu plith - a'u pwyllgorau. Fe'i dewiswyd gan y Cyngor Cyfrin yn un o'i gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cafodd radd M.A. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru yn 1948. Ar hyd y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ysgrifau, pamffledi, a llyfrau mwy; bu hefyd am gyfnod yn golygu 'r Welsh Outlook. Dyma deitlau rhai o'i weithiau - Pithead and Factory Baths (gyda J. A. Lovat-Fraser), 1920; The Housing Problem in Wales, 1920; History of the Port of Cardiff, 1939; Historic Melingriffith, 1940; The Government of Wales, 1943; Wake up, Wales … 1943; Cardiff's Civic Centre, a Historical Guide, 1946.

Priododd Alice, merch Caleb Thomas, Ystalyfera, a bu iddynt fab. Bu farw yng Nghaerdydd 26 Awst 1949.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.