BRACE
,
WILLIAM
(
1865
-
1947
),
arweinydd llafur ac aelod seneddol
;
g. yn
Rhisga
,
sir Fynwy
,
23 Medi 1865
, yn fab i
Thomas
ac
Ann
Brace
. Addysgwyd yn ysgol elfennol
Rhisga
. Pan yn 12 mlwydd oed cychwynnodd ar ei yrfa fel
glöwr
yng
nglofa Rhisga
, a chyn hir dechreuodd gymryd diddordeb ym mhroblemau llafur. Yn
1890
priododd
Nellie
, merch
William
a
Harriet
Humphreys
o
Gwmcadarn
,
sir Fynwy
. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef yn
gynrychiolydd glowyr
adran leol
Undeb Glowyr Prydain Fawr
. Tua'r adeg hon un o bynciau mwyaf llosg y diwydiant glo yn
Ne Cymru
oedd y ddadl ynglŷn â'r drefn o dalu'r
glowyr
yn ôl y
sliding scale
. Arweinid y blaid a ffafriai'r egwyddor honno o dalu gan
William
Abraham
(
Mabon
,
Bywg.
, 1)
, a daeth
Brace
yn arweinydd y blaid a wrthwynebai. Daeth eu hymdrechion â'r ddau ŵr hyn i wrthdaro swyddogol a phersonol. Cyhuddwyd
Brace
gan
Abraham
o enllib ac enillodd
Abraham
yr achos. Ar ddiwedd
streic y glowyr
yn
1898
, fodd bynnag, ffurfiwyd
Undeb Glowyr De Cymru
gydag
Abraham
yn
llywydd
a
Brace
yn
is-lywydd y pwyllgor gwaith
. Yn
1899
bu
Brace
,
Abraham
, ac un arall yng nghynhadledd flynyddol
Undeb Glowyr Prydain Fawr
gyda chais am uno'r undeb lleol a'r mudiad cenedlaethol. Llwyddasant yn eu cais. Yn
1901
gofynnwyd iddo wasanaethu ar
Gomisiwn Brenhinol i ymchwilio i adnoddau glo Prydain Fawr
. Bum mlynedd ar ôl hyn etholwyd ef yn
aelod seneddol
llafur
dros
Dde Morgannwg
. Yn yr etholiad curodd y
Cyrnol
Wyndham Quin
, yn ddiweddarach
Iarll Dunraven
. Cynrychiolodd yr etholaeth hyd
1918
. Drwy'r cyfnod hwn parhaodd ei gysylltiad ag
Undeb Glowyr De Cymru
, ac yn
1912
penodwyd ef yn
llywydd yr Undeb
. Erbyn hyn, fodd bynnag, codasai peth gwrthwynebiad iddo o blith y
glowyr
am na chyfrifid ef yn ddigon radicalaidd. Yn
1915
penodwyd ef yn
Is-ysgrifennydd
y
Swyddfa Gartref
yn llywodraeth unedig cyfnod y rhyfel, a'r flwyddyn ddilynol apwyntiwyd ef yn
aelod o'r Cyngor Cyfrin
. Parhaodd yn aelod o'r llywodraeth hyd nes i'r
Blaid Lafur
wrthgilio yn
1918
. O
1918 hyd 1920
bu'n
aelod seneddol
dros adran
Abertyleri
o
sir Fynwy
. Derbyniodd swydd yn
1920
fel
Prif Gynghorwr
Adran Glofeydd y llywodraeth
, swydd lawn amser a arweiniodd i'w ymddiswyddiad fel
aelod seneddol
. Yn
1922
gofynnwyd iddo wasanaethu yn un o bedwar aelod ar
Gomisiwn Brenhinol
a ffurfiwyd gan
lywodraeth De Affrica
i wneuthur ymchwiliad i broblemau economaidd ar ôl anesmwythdra ymhlith y
glowyr
. Ymddiswyddodd yn
1927
a bu f.
12 Hyd. 1947
.
Llyfryddiaeth:
-
Ness Edwards
,
History of the South Wales Miners
Federation
, Llundain, 1938
,
1938
;
-
L. Twiston Davies
,
Men of Monmouthshire
, Caerdydd, 1933 [2
gyfrol]
, cyf. II,
1933
;
-
E. W. Evans
, ‘A Hist. of Industrial Relations in the South Wales coalfield to 1912’ (traethawd gradd Ph.D., Prifysgol Cymru,
1955
);
-
E. W. Evans
, ‘William Abraham, 1842-1922’ (traethawd gradd M.A., Prifysgol Cymru,
1953
);
-
Brinley Evans
, ‘A Hist. of the Trade Disputes … in the South Wales Coal Trade …’ (traethawd gradd M.A., Prifysgol
Cymru,
1944
);
-
Who was who?
,
1941-50
;
-
Western Mail
,
14 Hyd. 1947
;
-
The Times
,
14 Hyd. 1947
;
-
Who's who in Wales
,
1920
.
-
Gw. bellach hefyd
Eric Wyn Evans
,
Mabon, William Abraham, 1842-1922, a study
in trade union leadership, etc.
, Caerdydd, 1959
,
1959
.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth