Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BANKES , Syr JOHN ELDON ( 1854 - 1946 ), barnwr . Ganwyd yn Llaneurgain 17 Ebrill 1854 , yn fab i John Scott Bankes , plas Sychtyn , ac yn or-ŵyr i John Scott (yr Arglwydd Ganghellor Eldon ); disgynnai'n uniongyrchol hefyd o John Wynne ( 1667 - 1743 ) , Esgob Llanelwy , gan i ferch Wynne briodi Henry Bankes — stâd yr esgob yn Sychtyn oedd tref-tad J. E. Bankes . Aeth i Eton ac i Goleg Eglwys Crist (rhwyfodd dros Rydychen yn erbyn Caergrawnt ); aeth yn fargyfreithiwr yn 1878 , yn K.C. yn 1901 , yn un o farnwyr yr Uchel-lys yn 1910 , ac yn un o farnwyr y Llys Apêl (a chyda hynny'n aelod o'r Cyngor Cyfrin ) yn 1915 — ymneilltuodd yn 1927 .

Ar hyd ei yrfa, ymroes i waith cyhoeddus. Yn sir y Fflint , bu am 33 mlynedd yn Gadeirydd y Sesiwn Chwarter , ac yn aelod gweithgar o'r Cyngor Sir — yn Gadeirydd iddo yn 1933 . Y tu allan i'w sir, bu'n aelod o nifer mawr o bwyllgorau a dirprwyaethau — yn Gadeirydd (e.e.,) y Pwyllgor Adrannol ar Addysg yng Nghymru Wledig , 1928 . Perthynai i'r blaid Geidwadol , ac ymgeisiodd (yn ofer) am sedd Bwrdeisdrefi'r Fflint yn 1906 . Yr oedd yn aelod blaenllaw iawn o'r eglwys sefydledig gynt , a chanddo ddiddordeb mawr ym mhwnc addysg grefyddol yn yr ysgolion . Efo, gyda'r Arglwydd Sankey , a luniodd gyfansoddiad newydd yr Eglwys yng Nghymru . Rhoes Prifysgol Cymru iddo yn 1921 radd LL.D. er anrhydedd . Bu f. 31 Rhag. 1946 . Yr oedd wedi pr., yn 1882 , Edith Ethelston (bu hi f. 1931 ), a bu iddynt ddau fab a dwy ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Who's who? ;
  • ac ysgrifau arno yn y wasg pan fu farw.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor