Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ARMSTRONG-JONES , ROBERT ( 1857 - 1943 ), meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd . Ganwyd 2 Rhag. 1857 , yn Ynyscynhaearn , sir Gaernarfon , yn fab i'r Parch Thomas Jones , gweinidog gyda'r Annibynwyr , Eisteddfa , Cricieth , a Jane Elizabeth , merch Robert Jones o'r un lle.

Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog , ysgol Grove Park , Wrecsam , coleg y Brifysgol , Bangor , ac ysbyty S. Bartholomew , Llundain ; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885 ; F.R.C.S. (Lloegr) 1886 ; F.R.C.P. (Llundain) 1908 . Yn 1888 penodwyd ef yn arolygydd meddygol Gwallgofdy Earlswood ac yn 1893 i gyffelyb swydd yng Ngwallgofdy Cyngor Sir Llundain , yn Claybury . Ymneilltuodd yn 1916 . Bu'n ddarlithydd ar afiechydon y meddwl yn ysbyty S. Bartholomew ; yn feddyg ymgynghorol ynglŷn â'r cyfryw afiechydon i adrannau milwrol Llundain ac Aldershot , ac yn Ymwelydd ar Wallgofrwydd i'r Arglwydd Ganghellor . Bu'n Is-Gyrnol dros dymor yn yr R.A.M.C. , a chafodd y C.B.E. (Milwrol) yn 1919 . Gwnaed ef yn farchog yn 1917 . Mabwysiadodd Armstrong fel cyfenw ychwanegol yn 1913 . Yr oedd yn Y.H. ac yn ddirprwy raglaw yn Llundain a sir Gaernarfon , ac yn aelod o Gyngor ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion .

Pr., 1893 , Margaret Elizabeth (bu f. Mai 1943 ), merch hynaf Syr Owen Roberts , Llundain , a Plas Dinas , Caernarfon ; bu iddynt fab, Ronald Owen Lloyd Armstrong-Jones . Mab iddo yntau, Arglwydd Snowdon , a briododd y Dywysoges Margaret , chwaer y Frenhines Elizabeth II , a dwy ferch. Bu f. 31 Ion. 1943 .

Llyfryddiaeth:

  • Adnabyddiaeth a gwybodaeth bersonol;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Who's who? 1943 .

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon