Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904-1971), bardd a heddychwr.

Ganwyd Waldo Williams yn Hwlffordd, Sir Benfro ar 30 Medi 1904, y trydydd o bum plentyn John Edwal Williams (1863-1934) ac Angharad Williams (g. Jones, 1875-1932). Ysgolfeistr Ysgol Prendergast yn Hwlffordd oedd y tad, a Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd. Ar ôl iddo ddioddef gan byliau o anhwylder nerfol a adawodd eu hôl yn ddwfn ar ei fab ifanc, yn 1911 penodwyd J. Edwal Williams yn ysgolfeistr Ysgol Mynachlog-ddu, yn yr un sir ond mewn ardal Gymraeg ei hiaith yng nghysgod mynyddoedd y Preseli. Roedd i'r symudiad hwn arwyddocâd pellgyrhaeddol yn natblygiad Waldo Williams. Dywedodd Waldo (wrth ei enw cyntaf yn unig y cyfeirir ato yn aml) mai wrth chwarae â phlant ei ysgol newydd y dysgodd Gymraeg, profiad a gofnododd mewn cerdd gynnar, ‘Yr Iaith a Garaf’. Yn 1915 symudodd y teulu eto, i Glunderwen ar y ffin â Sir Gaerfyrddin, ond bu farw'r plentyn hynaf, Morvydd Moneg, ychydig fisoedd ar ôl y symud.

Rhywbryd ar ôl y symudiad hwn ac yn ystod y Rhyfel Mawr cafodd Waldo brofiad yn y bwlch rhwng Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd, dau gae ar ffarm y Cross, Clunderwen. Fe'i disgrifiodd yn ddiweddarach fel profiad o sylweddoli ‘yn sydyn, ac yn fyw iawn … fod dynion yn gyntaf dim, yn frodyr i'w gilydd’. Cadarnhau'r argyhoeddiadau heddychol a arddelid ac a rennid gan ei rieni ar yr aelwyd a wnaeth y profiad hwn. Soniodd tuag at ddiwedd ei oes am y cof o glywed ei dad yn adrodd cerdd wrthfilitaraidd T. E. Nicholas ‘Gweriniaeth a Rhyfel’ wrth ei fam ar yr aelwyd yn 1916. Yn ôl y sôn yng nghwmni Morvydd y dechreuodd y bachgen ifanc farddoni, gan ddilyn yn ôl troed brawd ei dad, William ‘Gwilamus’ Williams (1867-1920) awdur cyfrol o farddoniaeth ac arloeswr gyda'r vers libre yn y Gymraeg.

Aeth Waldo i Ysgol Ramadeg Arberth ac yna yn 1923 i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio Saesneg a Hanes. Bu'n weithgar ym mywyd y myfyrwyr, gan olygu cylchgrawn The Dragon yn ystod 1926-7. Yn ogystal â llunio llithoedd golygyddol cyhoeddodd gerddi Cymraeg a Saesneg yn ddienw yn y cylchgrawn. Ar ôl graddio dilynodd yrfa fel athro cyflenwi yn ei sir enedigol am rai blynyddoedd. Ni ellir dweud iddo fyth ddatblygu gyrfa broffesiynol reolaidd a llwyddiannus; gellid priodoli hyn i gyfnodau o salwch meddwl ac yn ddiweddarach yn ei yrfa i'w ymrwymiadau heddychol.

Daeth hi'n amlwg yn ddiweddarach iddo lunio nifer o gerddi nas cyhoeddwyd ar y pryd yn y cyfnod hyd at 1939, llawer ohonynt mewn cywair ysgafn. Cyhoeddodd gyfres o gerddi yn Y Ford Gron ar ddechrau'r 1930au, yn eu plith y delyneg ‘Cofio’, cerdd a gynhwyswyd gan T. H. Parry-Williams yn Elfennau Barddoniaeth yn 1935. Dyma un o'i gerddi mwyaf poblogaidd, ond ni fodlonai'r bardd ar y mynegiant adleisiol braidd a'i nodweddai. Cyhoeddodd hefyd yn 1936, ar y cyd â'i gyfaill E. Llwyd Williams , gyfrol o farddoniaeth i blant, Cerddi'r Plant. Yn y cyfnod hyd at 1939 amlygwyd arwyddion o'i uchelgais farddol mewn darnau o bryddest anorffenedig, ‘Y Gân ni Chanwyd’ a gymhellwyd gan gystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1929, ac yn yr awdl ‘Tŷ Ddewi’ a anfonwyd i gystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936. (Fe'i diwygiwyd gan y bardd cyn ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn Dail Pren yn 1956.) Roedd y cywydd hir ‘Y Tŵr a'r Graig’ (1938) yn garreg filltir o bwys. Wrth ymateb i'r symudiad tuag at orfodaeth filwrol ym Mhrydain defnyddiodd y bardd ddelweddau diriaethol o'i gynefin yn Sir Benfro i gynrychioli'r wladwriaeth filitaraidd ar y naill law, a'r werin na lwyr ddiffoddwyd ei hannibyniaeth barn gan y wladwriaeth ar y llaw arall.

Roedd y flwyddyn ganlynol, blwyddyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, mor gynhyrchiol fel ei bod hi'n deg ei hystyried yn drobwynt yn ei yrfa. Daeth Sir Benfro yn faes y gad rhwng grymoedd cyferbyniol yn llawer o gerddi 1939 a'r blynyddoedd dilynol, a dyna a rydd rym ac angerdd i gerddi amrywiol eu mesurau fel ‘Daw'r Wennol yn ôl i'w nyth’, ‘Ar Weun Cas' Mael’, ‘Gŵyl Ddewi’ a ‘Preseli’.Ystyrir yr olaf o'r cerddi hyn yn uchafbwynt ar y corff cyfoethog o ganu cymdeithasol-wleidyddol a gynhyrchodd y bardd rhwng 1939 a 1946. Y cefndir oedd ymgyrch pobl y Preseli yn erbyn bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i droi'r mynydd-dir yn faes ymarfer milwrol. Canu ei gefnogaeth o Kimbolton yn Lloegr, lle roedd yn athro ysgol, a wnaeth y bardd, ac mae llinell glo'r gerdd ‘Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw’ yn un o'i rai enwocaf. Mae'r gerdd yn cynnwys hefyd ddau ymadrodd sy'n cynnig allwedd i'w weledigaeth gymdeithasol a heddychol, sef ‘annibyniaeth barn’ a ‘bro brawdoliaeth’. Er bod prif drywydd y gerdd yn eglur, ceir ynddi ddelweddu ac ymadroddi mwy heriol ac astrus; dyma nodwedd gynyddol amlwg ar ganu'r bardd ar ôl 1939, wrth iddo ymryddhau yn raddol o gonfensiynau'r mesurau telynegol a'r soned, gan ddilyn Gwenallt a Saunders Lewis a llunio mesurau mwy afrywiog a chyffrous.

Ond os oedd y blynyddoedd o 1939 ymlaen yn rhai cyffrous a chynhyrchiol i'r bardd, fe'u nodweddid gan fywyd personol dyrys a thrallodus. Ar 14 Ebrill 1941 priodwyd Waldo Williams a Linda Llewellyn yng Nghapel Blaenconin. Golygai ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol ar sail heddychiaeth y byddai'n rhaid i Waldo Williams wynebu tribiwnlys. Er cael ei ryddhau'n amodol mewn tribiwnlys yng Nghaerfyrddin yn Chwefror 1942 roedd y bardd wedi'i gymell cyn hynny gan bryderon am ei ddyfodol i wneud cais llwyddiannus am swydd yn Ysgol Botwnnog yn Llŷn, a dechreuodd ar ei waith yno ar 1 Mawrth. Gwaethygodd iechyd ei wraig ar ôl y symud a bu farw o'r ddarfodedigaeth ar 1 Mehefin 1943. Bwriwyd y bardd i drallod dwfn gan y brofedigaeth hon, a gadawodd Lŷn am Loegr, gan weithio mewn ysgolion yn Kimbolton a Lyneham rhwng 1945 a 1948. Symudodd yn ôl i Gymru yn 1949, i swydd gyflenwi yn Llanfair-ym-Muallt; o fewn blwyddyn yr oedd yn ôl yn Sir Benfro, ac yno y bu wedyn yn dysgu mewn ysgolion ac mewn dosbarthiadau allanol i oedolion tan ei farwolaeth. Bu farw yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd ar 20 Mai, 1971 ar ôl treulio misoedd yno o ganlyniad i strôc ddifrifol.

Mae'n sicr i'r colledion personol chwerw a brofodd ei alluogi i uniaethu â'r galarus a'r trallodus mewn cerddi dwys fel ‘Almaenes’ a ‘Die Bibelforscher’ a ‘Geneth Ifanc’. Uchafbwynt gyrfa'r bardd ar lawer cyfrif oedd llunio'r gerdd ‘Mewn Dau Gae’ cyn cyhoeddi ei gyfrol Dail Pren yn 1956. Ynddi myfyrir ar y profiad a gafodd tua deugain mlynedd ynghynt yng ngoleuni ei bryderon cyfoes am filitariaeth a gorfodaeth filwrol. Yn wir gwrthdystiodd yn erbyn polisïau'r llywodraeth adeg rhyfel Corea ac ar ôl hynny; atafaelwyd ei eiddo trwy beidio â thalu ei dreth incwm a threuliodd gyfnodau yn y carchar yn ystod 1960 a 1961.

Fe'i magwyd o fewn enwad y Bedyddwyr ond erbyn y 1950au gwnaethai ei gartref gyda Chymdeithas y Cyfeillion, y ‘Crynwyr’ yn Aberdaugleddau, a derbyn llawer o gymorth ymarferol trwy hynny. Bu newid hefyd yn ei ymlyniad wrth bleidiau gwleidyddol. Yn y 1920au roedd yn gefnogwr brwd i'w gyfaill Willie Jenkins, heddychwr ac ymgeisydd y Blaid Lafur yn Sir Benfro, ond yn ddiweddarach, yn un peth oherwydd dylanwad ei gyfaill D. J. Williams , Abergwaun, ymunodd â Phlaid Cymru, gan sefyll etholiad seneddol fel ymgeisydd i'r blaid honno yn Sir Benfro yn 1958.

Dail Pren oedd yr unig gyfrol o farddoniaeth i oedolion a gyhoeddodd Waldo Williams yn ystod ei oes, cyfrol a adlewyrchai amrywiaeth ac anwadalwch ei awen a'i fywyd, yr ysgafn ddigrif a'r ingol gymhleth fel ei gilydd; ac eto ers ei farw yn 1971 prin bod yr un bardd Cymraeg arall wedi denu'r fath sylw ag ef. Fe'i trafodwyd yn helaeth gan feirniaid llenyddol a ganfu yn ei farddoniaeth rai o gerddi cyfoethocaf a mwyaf heriol yr ugeinfed ganrif, ac yn ei ryddiaith gydymaith gwerthfawr i'w ganu. Yn yr unfed ganrif ar hugain ychwanegwyd yn arwyddocaol at ganon ei waith trwy gyhoeddi detholiad sylweddol o'i ryddiaith a chasgliad golygedig o'i holl gerddi hysbys.

Fe'i dyrchafwyd yn broffwyd ac yn weledydd gan y rhai a rannai ei ddaliadau am heddychiaeth a brawdoliaeth dyn. Dylanwadodd yn ddwfn ar rai o feddylwyr ac arweinwyr y mudiad cenedlaethol Cymraeg; yn ystod y 1960au roedd erthyglau'r athronydd J. R. Jones â'i gysyniad o ‘gydymdreiddiad iaith a thir’ yn cynnwys mynych ddyfyniadau o gerddi Waldo. Ysbrydolodd arlunwyr (e.e. Aneurin Jones) a cherddorion - rhan o'r rheswm am boblogwydd rhyfeddol y gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ yn yr unfed ganrif ar hugain yw'r trefniant cerddorol a luniodd Eric Jones ar ei chyfer, trefniant a ddaeth yn ffefryn gyda chorau. Denodd gyfieithwyr o fri, yn eu plith Rowan Williams. Talwyd teyrnged iddo trwy godi cyfres o gofebau; ar Ros-fach ger Mynachlog-ddu y ceir y prif faen coffa, ac arno eiriau agoriadol y gerdd ‘Preseli’, ‘Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd / Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn’; gosodwyd placiau mewn lleoedd eraill y bu'n gysylltiedig a hwy, yn eu plith Ysgol Cas-mael, Elm Cottage yn Llandysilio ac Ysgol Kimbolton yn Lloegr. Sefydlwyd Cymdeithas Waldo Williams gyda'r nod o barhau i hyrwyddo ei waith a'i weledigaeth.

Ffynonellau:

  • Damian Walford Davies, gol., Waldo Williams: Rhyddiaith , 2001
  • Alan Llwyd, Waldo , 2014
  • Alan Llwyd a Robert Rhys, gol., Waldo Williams: Cerddi 1922-1970 , 2014
  • Robert Rhys, gol., Cyfres y Meistri 2: Waldo Williams , 1981
  • Robert Rhys, Chwilio am Nodau'r Gân , 1992
  • Gwefan Cymdeithas Waldo Williams

Awdur:

Robert Rhys

Blwyddyn Cyhoeddi: 2017