Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VALENTINE, LEWIS EDWARD (1893-1986), gweinidog y Bedyddwyr, awdur a chenedlaetholwr.

Ganwyd Lewis Valentine ar 1 Mehefin 1893 mewn tŷ o'r enw ‘Hillside’ yn stryd Clip Terfyn yn Llanddulas, sir Ddinbych, yr ail o saith o blant Samuel Valentine (1854-1940), chwarelwr a oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Mary (g. Roberts, 1865-1928). Roedd ganddo dri brawd, Richard, Idwal a Stanley, a thair chwaer, Hannah, Nel a Lilian. Bu ei fagwraeth yng nghapel Bethesda yn Llanddulas yn ddylanwad allweddol arno, a daeth cynulleidfa'r capel bach hwnnw yn sail i'w ddelfryd o gymuned ysbrydol ar hyd ei oes.

Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Llanddulas ac yn ysgol uwchradd Eirias ym Mae Colwyn. Aeth yn ôl i'w hen ysgol gynradd yn ddisgybl-athro am ddwy flynedd cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1913 i astudio ieithoedd Semitig o dan yr Athro Thomas Witton Davies (gw. erthygl y BC gan Valentine ei hun), a Chymraeg o dan yr Athro John Morris-Jones. Roedd eisoes wedi dechrau pregethu yn 1912, a'i fwriad oedd mynd yn weinidog ar ôl graddio. Ond tarfodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei astudiaethau, ac ymunodd Valentine â'r OTC yn y coleg, ac yn Ionawr 1916 â'r Corfflu Meddygol (RAMC) fel llawer o ddarpar-weinidogion eraill. Cyrhaeddodd Ffrainc ddiwedd Medi 1916, a bu'n gwasanaethu ar y llinell flaen nes iddo gael ei glwyfo'n ddifrifol ar 23 Hydref 1917 pan anadlodd nwy gwenwynig wrth drin clwyfedigion brwydr Passchendaele. Bu'n ddall, yn fud ac yn fyddar am dri mis mewn ysbytai yn Lloegr, ond erbyn mis Mawrth 1918 roedd wedi gwella digon i gael ei symud i Felffast, ac roedd yn Blackpool erbyn diwedd y rhyfel. Cadwodd ddyddiadur yn ystod y rhyfel, a bu hwnnw'n sylfaen ar gyfer yr atgofion a luniodd yn ddiweddarach ac a gyhoeddwyd yn Seren Gomer yn 1969-72 dan y teitl ‘Dyddiadur Milwr’. Er bod cryn dipyn o ddoethineb drannoeth yn yr atgofion cyhoeddedig, mae'n amlwg i'w brofiadau yn y rhyfel ei droi'n genedlaetholwr ac yn heddychwr o argyhoeddiad dwfn.

Dychwelodd Valentine i'r brifysgol ym Mangor yn Ionawr 1919, lle bu'n lletya gyda'i chwaer Hannah a gadwai siop groser yn y dref gyda'i gŵr. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn ieithoedd Semitig ym mis Mehefin 1919, gan ennill MA ddwy flynedd yn ddiweddarach am draethawd ar gyfieithiadau William Morgan a Richard Parry o Lyfr Job. Chwaraeodd ran lawn ym mywyd Cymraeg y coleg, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf cymdeithas GymraegY Macwyaid’, rhagflaenydd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig (‘Y Tair G’) a sefydlwyd ar ôl i Valentine adael y coleg. Ystyrid Valentine yn ysgolhaig Hebraeg addawol iawn, ond cadwodd at ei fwriad i fynd i'r weinidogaeth, ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar gapel y Tabernacl yn Llandudno yn Ionawr 1921. Priododd Margaret Jones o Landudno ar 1 Hydref 1925, a ganwyd mab iddynt, Hedd, yn 1926 a merch, Gweirrul, yn 1932.

Ym mis Tachwedd 1923 sefydlodd Valentine gylchgrawn misol ar gyfer Bedyddwyr Cymraeg Llandudno, Y Deyrnas (yr un teitl â'r cylchgrawn heddychol a olygwyd gan Thomas Rees yn ystod y rhyfel), ac ef oedd ei olygydd nes i'r cylchgrawn ddirwyn i ben yn 1930, ac eto pan atgyfodwyd y cylchgrawn am gyfnod byr yn 1936. Er mai defosiynol yn bennaf oedd amcanion Y Deyrnas, rhoddodd gyfle i Valentine fynegi ei genedlaetholdeb diwylliannol, gan amlygu dylanwad Emrys ap Iwan, yn enwedig o ran ei gred yn y cwlwm annatod rhwng crefydd, iaith a chenedl. Ac ar dudalennau Y Deyrnas y mynegodd ei gefnogaeth i Tom Nefyn Williams a'i safiad dros yr efengyl gymdeithasol yn 1928. Yn nes ymlaen yn ei fywyd bu Valentine yn olygydd ar gylchgrawn chwarterol cenedlaethol y Bedyddwyr, Seren Gomer, am yn agos i chwarter canrif rhwng 1951 a 1975.

Roedd Valentine yn bresennol mewn cyfres o gyfarfodydd yng nghaffi'r Queen's yng Nghaernarfon yn 1924 a arweiniodd at sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â rhai o gyffelyb fryd yn y de. Lansiwyd y blaid newydd yn Eisteddfod Pwllheli yn Awst 1925 ac etholwyd Lewis Valentine yn llywydd. Daliodd y swydd honno am flwyddyn yn unig, tan yr ysgol haf ym Machynlleth, pan olynwyd ef gan Saunders Lewis, ond gwasanaethodd Valentine fel is-lywydd rhwng 1935 a 1938, ac ef oedd ymgeisydd seneddol cyntaf y Blaid pan safodd dros etholaeth Sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol 1929. Mae'r 609 o bleidleiswyr a'i cefnogodd yn yr etholiad hwnnw bellach yn rhan o chwedloniaeth Plaid Cymru.

Erbyn canol y 1930au teimlai Valentine fod yr amser wedi dod i weithredu dros ei egwyddorion, a daeth cyfle i wneud pan gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gynlluniau i godi gwersyll ymarfer i'r Awyrlu ym Mhorth Neigwl yn Llŷn, ar dir hen blas Penyberth. Y weithred bennaf y cofir Lewis Valentine amdani yw ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio gyda Saunders Lewis a D. J. Williams ar 8 Medi 1936. Yn yr achos hwn daeth ei genedlaetholdeb a'i heddychiaeth ynghyd mewn gweithred symbolaidd a ysbrydolodd lawer o genedlaetholwyr dros y degawdau dilynol. Valentine oedd y ‘Mr X’ a dynnodd sylw'r wasg at yr achos yn Rhagfyr 1935, gan orfodi Saunders Lewis i wneud safiad ar y mater. Disgrifiodd Valentine y gwrthdaro ffyrnig a fu yn sgil ymgyrch y Blaid yn erbyn yr Ysgol Fomio mewn ysgrif yn Y Ddraig Goch (Mehefin 1936) dan y teitl ‘Bedydd tân y Blaid Genedlaethol’. Bwriad y weithred o roi'r gwersyll ar dân oedd cael cyhoeddusrwydd i achos y Blaid, a thraddododd Valentine a Saunders Lewis areithiau yn Llys y Goron Caernarfon yn Hydref 1936 a gyhoeddwyd yn bamffled gan y Blaid. Methodd y rheithgor â chytuno ar benderfyniad y tro hwnnw, ond pan symudwyd yr achos i lys yr Old Bailey yn Llundain yn Ionawr 1937 dedfrydwyd y tri diffynnydd i naw mis o garchar, a buont yn Wormwood Scrubs o 20 Ionawr tan 26 Awst 1937. Adroddodd Valentine ei brofiadau yn y carchar yn yr ysgrifau ‘Beddau'r byw’ a gyhoeddwyd yn Y Ddraig Goch rhwng Tachwedd 1937 a Chwefror 1939, ac mae ei synnwyr digrifwch a'i gydymdeimlad â'i gyd-garcharorion yn amlwg ynddynt. Bu cynulleidfa ei gapel yn gefnogol iawn iddo yn yr helynt hwn, ac fe'i croesawyd yn ôl i'w weinidogaeth wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Cafodd Valentine wahoddiad yn Hydref 1943 i fynd yn weinidog ar gapel Sïon, Ponciau, ger Wrecsam. Gwrthododd y cais hwnnw, ond pan ddaeth galwad i gapel Penuel yn Rhosllannerchgrugog yn 1947 penderfynodd ei derbyn wedi cryn betruso. Newid mawr i'r teulu oedd symud o dref Llandudno i bentref glofaol y Rhos, ond yno y bu Valentine yn gwasanaethu hyd nes iddo ymddeol o'r weinidogaeth yn 1970. Ymroes yn fwy i lenydda yn y cyfnod hwn, gan ymgymryd â golygyddiaeth Seren Gomer yn 1951, lle yr amlygodd ei ddawn fel beirniad llenyddol wrth adolygu dros 900 o lyfrau. Roedd yn fardd medrus yn y mesurau rhydd a chaeth, a'i gyfansoddiad mwyaf adnabyddus yw ‘Gweddi dros Gymru’, emyn a gyhoeddwyd yn Seren Gomer yn 1962 ac sydd wedi dod yn fath o ail anthem genedlaethol ar dôn ‘Finlandia’ Sibelius. Fe'i penodwyd yn llywydd enwad y Bedyddwyr yn 1962, ac mae'r anerchiad llywyddol a gyhoeddwyd yn yr un rhifyn o Seren Gomer yn cynnig asesiad sobreiddiol o gyflwr argyfyngus crefydd yn y cyfnod.

Roedd argyfwng yr iaith Gymraeg yn destun pryder mawr iddo hefyd. Ac yntau wedi astudio Hebraeg yr Hen Destament, nid yw'n syndod ei fod yn edmygwr mawr o ymdrechion Israel i adfywio ei hiaith genedlaethol. Roedd yn awyddus i weld cynlluniau tebyg mewn ardaloedd fel Cwm Rhondda, yn enwedig trwy'r gyfundrefn addysg, ac roedd wedi arloesi gyda dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn Llandudno yn y 1920au. Mae dylanwad darlith radio Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’ ar Ŵyl Ddewi 1962 i'w weld yn glir ar anerchiad llywyddol Valentine a draddodwyd fis yn ddiweddarach, lle dywed mai ‘achub y Gymraeg fel cyfrwng hybu'r Deyrnas, ac fel cyfrwng pregethu'r Gair, yw'r alwad fawr at Gristnogion Cymraeg Cymru heddiw’.

Syniad dyrchafedig iawn oedd gan Lewis Valentine am swyddogaeth y gweinidog, a rhoddai bwys arbennig ar y bregeth fel cyfrwng i gyfleu neges broffwydol. ‘Proffwyd yw'r gweinidog, ac onid yw'n broffwyd nid yw'n ddim’, meddai yn Seren Gomer yn 1952. Ac yntau'n baladr o ddyn cefnsyth dros ei chwe throedfedd, roedd ganddo bresenoldeb corfforol urddasol a llais trawiadol, ac roedd ei Gymraeg yn gyfuniad cyfoethog o iaith lafar ei fro a'r iaith lenyddol glasurol. Safodd yn gadarn ac unplyg dros ei egwyddorion trwy gydol ei fywyd, a hawdd y gellir ei weld yn gynrychiolydd y traddodiad anghydffurfiol Cymreig ar ei orau.

Ar ôl ymddeol yn 1970 symudodd yn gyntaf yn ôl i Landdulas, ond cafodd ei siomi gan y newid yn ei hen bentref, a symudodd ef a'i wraig i Hen Golwyn yn fuan wedyn. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd Doethur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd i Lewis Valentine yn 1986, ond ni fu fyw i'w derbyn. Bu farw mewn cartref nyrsio yn Llandrillo-yn-Rhos ar 5 Mawrth 1986.

Ffynonellau:

  • John Emyr (gol.), Lewis Valentine: Dyddiadur Milwr a Gweithiau Eraill , 1988;
  • D. Densil Morgan, 'Y proffwyd ymhlith y praidd: Lewis Valentine (1893-1986)', yn Cedyrn Canrif: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif , 2001, 68-104;
  • Arwel Vittle, Valentine: Cofiant i Lewis Valentine , 2006;
  • Gohebiaeth a dyddiaduron Lewis Valentine yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gellir gweld detholiad o'i bapurau sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf ar wefan Cymru1914.

Awdur:

Dafydd Johnston

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016