Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS AP TEWDWR (bu f. 1093), brenin Deheubarth (1078-1093).

Roedd Rhys yn fab i Dewdwr ap Cadell ac felly'n ddisgynnydd i'r tywysog mawr o'r ddegfed ganrif Hywel Dda , ond nid oedd neb o'i linach wryw uniongyrchol wedi dal y frenhiniaeth ers y ddegfed ganrif. Wrth ddod i rym elwodd Rhys o'r arafu a fu ar oresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru wedi 1075 yn ogystal ag o ymdrechion ei gefnder pell Caradog ap Gruffudd (arglwydd Gwent Uch Coed ac Iscoed) i ddileu cystadleuwyr dynastig er mwyn hyrwyddo ei hawliau ei hun. Mae Brut y Tywysogyon yn dyddio dechrau ei deyrnasiad tua 1078 heb nodi ffiniau ei diriogaeth.

Enillodd Rhys fuddugoliaeth bwysig iawn yn 1081 ym mrwydr Mynydd Carn lle ymgynghreiriodd ag arglwydd Gwynedd Gruffudd ap Cynan a oedd wedi cynnull llu o hurfilwyr o Iwerddon. Dywed y cofnod cwta yn nhestun cynharaf yr Annales Cambriae (tua 1100) i Rys a Gruffudd drechu Caradog ynghyd â'i gynghreiriaid Trahaearn ap Caradog (arglwydd Arwystli, Ardudwy, a Meirionnydd a thywysog grymusaf gogledd Cymru) a Meilyr ap Rhiwallon o Bowys. Ceir adroddiad llawnach ond ansicr ei wrthrychedd yn Hanes Gruffudd ap Cynan lle daw Gruffudd yn ôl o alltudiaeth yn Iwerddon gyda llynges a gafodd gan Diarmait mab Enna, ŵyr i'r brenin mawr Diarmait mac Máel na mbó. Wedi iddo lanio ym Mhorthclais, ger Eglwys Gadeiriol Tyddewi, daw Rhys i gwrdd ag ef, gan honni ei fod wedi ei yrru allan o frenhiniaeth Deheubarth ac iddo gymryd lloches yng nghymuned yr eglwys gadeiriol. Ar ôl i Rhys gydnabod Gruffudd yn arglwydd arno gan addo iddo hanner ei deyrnas, mae'r ddau'n arwain eu lluoedd i fuddugoliaeth ar faes y gad yn erbyn Caradog ap Gruffudd , gwŷr Gwent, Morgannwg, y Normaniaid, Meilyr ap Rhiwallon a Thrahaearn o Arwystli. Ni pharodd y gynghrair ar ôl y fuddugoliaeth a sleifiodd Rhys i ffwrdd yn llechwraidd gan ofni brad gan Gruffudd . Dangosodd hwnnw ei ddicter trwy anrheithio Deheubarth. Tanseiliodd buddugoliaeth Rhys strategaeth y Normaniaid o ‘rannu a rheoli’ yn ne Cymru, ac roedd yn ôl pob tebyg o leiaf yn rhannol gyfrifol am y ‘pererindod’ enwog i Dyddewi gan y Brenin William I o Loegr y flwyddyn honno. Y farn fodern yw bod Rhys wedi ymddarostwng i William, ond nid oes cofnod canoloesol o hyn, er bod y gosodiad yn llyfr Domesday swydd Henffordd i Rys dalu £40 mewn treth i William yn awgrymu rhyw ufudd-dod.

Cododd sialensau i reolaeth Rhys eto wedi marwolaeth William. Gyrrwyd ef allan o'i deyrnas dros dro yn 1088 gan dri uchelwr o Bowys: Madog, Cadwgan , a Rhirid, meibion Bleddyn ap Cynfyn . Ffodd Rhys i Iwerddon a chododd lu o hurfilwyr. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn nes ymlaen y flwyddyn honno, wynebodd Rhys ei elynion mewn lle a elwir naill ai'n Portlethern neu Llech y crau, lle y bu'n fuddugoliaethus, gan ladd Madog a Rhirid. Tair blynedd yn ddiweddarach llwyddodd Rhys i drechu a lladd cefnder pell iddo o'r enw Gruffudd ap Maredudd (a fuasai'n byw ar ei ystadau yn swydd Henffordd) mewn brwydr yn Llandudoch. Daeth diwedd ei fywyd yntau yn ystod wythnos y Pasg 1093 pan gafodd ei ladd gan wladychwyr Normanaidd ym Mrycheiniog dan arweiniad Bernard de Neufmarché, gŵr Nest, wyres Gruffudd ap Llywelyn . Honna croniclau Cymreig a Seisnig fod marwolaeth Rhys wedi agor Cymru i oresgyniad y Normaniaid.

Cofir Rhys hefyd oherwydd ei gysylltiadau teuluol. Yn ôl Achau Brenhinoedd a Thywysogion Cymru, gwraig Rhys oedd Gwladus merch Rhiwallon ap Cynfyn , cyfnither felly i'w elynion yn 1088. Bu ganddo dri o blant hysbys: Gruffudd (b.f. 1137) a olynodd ei dad yn ne Cymru ar ôl bwlch o ddau ddegawd; Hywel; a merch o'r enw Nest . Ymhlith ei ddisgynyddion yr oedd yr hanesydd Gerald de Barri, sy'n fwy hysbys dan yr enw Gerallt Gymro , a Rhys ap Gruffudd (‘yr Arglwydd Rhys’) a ddominyddodd Gymru ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Er iddo ladd ei gystadleuwyr dynastig, cofid Rhys fel gŵr duwiol, a daeth Caradog Fynach o'i lys i ymneilltuo i fywyd meudwy.

Ffynonellau:

  • Robert S. Babcock, ‘Rhys ap Tewdwr, king of Deheubarth’ in Anglo-Norman Studies XVI: Proceedings of the Battle Conference 1993 , (ed.) Marjorie Chibnall (1994) 21-35;
  • Thomas Jones (ed. and trans.), Brut Y Tywysogion of the Chronicle of the Princes, Peniarth Ms 20 version , 1952;
  • R. R. Davies, The Age of Conquest, Wales 1063-1415 , 1987;
  • Gerald of Wales, Itinerarium Kambriae and Descriptio Kambriae in J. S. Brewer, J. F. Dimock, and G. F. Warner (eds.) Giraldi Cambriensis Opera , 8 vols. (1861-91) vi, 3-152 and 155-227;
  • J. E. Lloyd, A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (3rd ed. 1939);
  • K. L. Maund, Ireland, Wales and England in the Eleventh Century , 1993;
  • Christopher Snyder, The Britons , 2005.

Awdur:

Benjamin Hudson

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016